Tudalen:Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen).pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

[Ymddengys Syr Rhys y Geirie Duon.

Syr Rhys.
Gostegwch bawb, gostegwch,
Os ydych am wrando, rowndiwch,
Y fi ydyw'r crier ffraethber ffri,
Ddaeth yma i gyhoeddi heddwch.

Fy enw sydd hynod ddigon,
Syr Rhys y Geirie Duon,
Gŵr wyf a fedr ddweyd eu bai,
Drwy deg, i rai cymdogion.

Ond mi glywes fy nain yn ownio,
Mai gore ydyw'n lleia' siarato;
O ran fe gynhyrfa llawer un swrth,
Mae'n debygol, wrth ei bigo.

Ni fu erioed gynlleidfa luosog,
Na bydde rhyw rai yn euog;
Rhag ofn cenfigennu am hynny ymhell,
Mae llawenydd yn well i'w annog.

Mae gennym ni fath ar chwaryddieth,
Yn pwnio 'nghylch y pedwar penneth;
Sef Brenin, ac Ustus, ac Esgob llon,
A'r Hwsmon hoewlon heleth.

Y Brenin i wneyd llywodreth,
A'r Ustus i reoli cyfreth;
A'r Esgob i bregethu'r gwir,
Wrth reol clir athrawieth.: