Tudalen:Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen).pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac ynte'n Hwsmon manwl,
Sy'n talu tros y cwbwl,
Trwy'i waith a'i lafur, drafferthus lun,
Wrth drin ei dyddyn diddwl.

Dyna'r testun oll mewn dwyster,
Mae amryw drafaeliwr tyner
A welodd sign ALL FOURS mewn tre
A'i lyged yn rhyw le yn Lloeger.

Ond ar hanes a dull y rheiny,
Mae sail ein hact ni 'leni,
Ond bod ynddi hi Gybydd, ac amryw o gêr,
'Ran pleser i'r cwmpeini.

'Doedd waeth dweyd ar fyr ei threfen,
Na mynd i bregethu rhyw hir brygowthen,
Mae hanner gair yn fwy i gall.
Na dweyd i ddi-gall ddeugen.

Y sawl sydd am brofi sylwedd,
Gwrandawed hyn i'r diwedd,
Os nad oes iddi ond dechre bach,
Mae'n ffurfach yn ei pherfedd.

Tyrd dithe'r cerddor tene,
Cais dynnu rhyw sŵn o'th danne,
Fel y gallwyf ddawnsio tro,
Yn bur-ddewr i dreio'r byrdde.

Ffarwel i chwi dro go fychan,
Daw'r Brenin yma'n fuan;
Ond mi ddof fi ato fe eto yn hy,
'Ran siawns na thuedda'i ymddiddan.

[Diflanna.