Tudalen:Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen).pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

[Ymddengys Brenin.

Brenin.
'Nawr o'ch blaene'r hawddgar fyddin,
Mi ddes ger bron dan enw Brenin,
I adrodd i chwi fy mhwer addas,
A'm cadernid uwch y deyrnas.

Gan faint fy mraint, a'm parch, a'm honor,
Twf eurdeg harddwych, tyrd, y cerddor,
'Rwy'n chwennych datgan cân blethedig,
Hyf a moesol, hefo miwsig,—

(Alaw,—"DYDD LLUN Y BORE.")

"Wel, gwelwch i gyd,
Trwy'r byd yn wybodol y rheol sy'm rhan,
I mi mae anrhydedd, a mawredd pob man;
I'r Brenin mae'r braint,
Wir gywraint ragorieth, yn benneth mawr barch,
A phob ryw reoleth trwy'i daleth hyd arch;
I mi mae'r awdurdod, a mawr air Emerod,
I mi mae'n bri hynod yn barod mewn byd,
I mi mae'r gair uchaf, beth bynnag a archaf,
Mae'n dynion sydd danaf, mi brofaf i'm bryd,
Hwy wnant fel y mynnwyf pan alwyf yn nghyd;
Os archaf eu hanfon i ryfel echryslon,
Yn erbyn gelynion, yn union hwy an',
Hwy laddant, hwy leddir, gorchfygant, gorchfygir,
Trwy ddyfroedd y mentrir, nid ofnir mawr dân,
Dangosant eu cryfdwr iawn ledwr yn lân.