Tudalen:Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen).pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A dyna i chwi'r modd yn loew,
Mae'ch offisers chwi yma ac acw,
Ni chewch chwi oddiwrthynt hwy, lawer tro,
Ddim 'chwaneg nag iws i'ch enw.

Bren. Mae teyrnged gyfion i mi'n digwydd
O gefn y môr a chefn y mynydd.

Rhys. Os oes i chwi'n digwydd beth i'ch shâr,
Mae fo'n glynu gyda'r glennydd.

Ni bydd i chwi ond rhan go wannedd,
Erbyn y llyfo pawb eu bysedd;
Mae gwmpas y môr, a glywa'i son,
A'r mynydd, i chwi weision mwynedd.

Eu gwaith mwyaf ydyw gwaitio
Ar eu gilydd, ac ymwenwyno;
Dwyn y naill oddiar y llall tan gadw swn,
Yr un fath a'r cwn 'rol cinio.

Os caiff rhai unweth godi fyny
Yn enw'r Brenin, dyna hwy'n lladd ac yn braenu,
Yn twyllo, ac yn robio mwy na'u rhan,
Ni chaiff y gwan le i gwnnu.

A phe gwyddech chwi weithian fel bu, rhyfel diwaetha,
Rhwng admirals a chaptenied, bawb am y tynna',
Yn derbyn breibs ac yn gwasgaru'r gweinied,
Mil mwy nag y gellir byth adrodd y golled.