Arth. O, hel rhyw esgusion dwl oerion di les,
Mae'r hen Iddewes ddiog.
Oni chawsoch chwi gynysgeth holliach,
Aur ac arian, ac amryw geriach?
Chwi allasech ddwad fel finne'n wisgi,
I berchen digon, onibai'ch diogi.
Gwen. Wel, soniwch chwi am ddiogi eiddigus,
'Roedd y plant yn fychen, a minne'n afiachus;
A pheth a ddisgwylie neb mewn condisiwn,
O waith na phwyse gan fenyw o'm ffasiwn.
Arth. 'Doodd wiw i undyn a'ch adwaene,
Ddisgwyl gennych fawr o wyrthie,
'Ran prin y cynhyrfech chwi i roi tro,
O'ch cornel i ystwytho'ch carne.
O! fel y bydde hi yn un bauled,
Yn eiste'n domen, na chynhyrfe hi damed;
Buase'n dda fod y gwydde'n llawer man,
Yn eistedd gan onested.
Dyna fel y bydde hi mor ddigyffro,
Trin plant yn ei lludded, a difa'r holl eiddo;
Ac ysmocio nes aeth hi 'run lliw a'r gŵr drwg,
Hen boced, gan fwg dybaco.
Gwen. Wel, ond fy mrest i sy'n llawn caethni,
Mae tybaco yn tynnu dwfr ohoni.
Arth. Yr ydwy'n eich gweled chwi, hyll ei gwawr,
Yn yslefrian mewn mawr yslafri.