Tudalen:Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen).pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rhagymadrodd.

Ganwyd Thomas Edwards (Twm o’r Nant) ym Mhen Porchell, Llan Nefydd, yn 1739. Pan nad oedd ef ond hogyn, symudodd ei rieni i’r Nant Ganol, Henllan. Nid oedd dim yn neillduol, hyd y gwyddis, yn ei rieni; gweithient yn galed, ac nid o’u bodd y rhoddai eu bachgen athrylithgar ei amser gorffwys i lyfrau. Ennill ei damaid oedd neges ei fywyd. Canlyn ceffylau, gyrru gwagen, a llwytho coed, oedd ei brif orchestion. O amgylch Dinbych y treuliodd ran fwyaf ei oes, er iddo grwydro i ddyffrynoedd Hafren a Thowi yn ei dro; yn Nyffryn Clwyd hefyd y treuliodd ei henaint. Yr oedd yn wr cadarn o gorff, parod ei ddyfais, ond ni lwyddodd yn y byd. Bu farw Ebrill 3, 1810, gan mlynedd i eleni; a chladdwyd ef ym mynwent yr Eglwys Wen, ger Dinbych.

Yn anhymig y ganwyd ef, a dyna’r pam na chafodd ei athrylith, er cryfed ei hadenydd ac er cliried ei llygaid, ei lle priodol ym meddwl Cymru. Pe ganesid ef yn gynt, cawsai feddwl