Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flynyddau maith? Y mae'n wir y byddai "Tŷ'r Gweinidog" oedd yn yr arfaeth, yn ateb pwrpas y Tŷ Capel yn ei bethau amgylchiadol; ond nis gallai lanw y drych-feddwl, a'r adgofion lawer, oeddynt wedi cysegru y llanerch, ac wedi ei gwneud yn fath o "hafan dawel, glyd," i aml bregethwr ar ei daith. Beth bynnag am fannau ereill ar hyd a lled y wlad, gwyddai pawb a fuont yno nad oedd raid ofni cael "gwely damp," nac unrhyw anffawd arall o'r un nodwedd, yn y Cwm. Yr oedd Marged Parri, o fawr ofal calon am gysur "Cenhadon Hedd," wedi gwneud pob ystafell mor glyd a nyth y dryw. Ah! llawer noson ystormus, a'r gwynt yn rhuthro fel gwallgof ar hyd y Cwm, y bum yn diolch am glydwch a thangnefedd o dan blygion tew o wrthbannau y Tŷ Capel! Nid wyf yn son am foethau, nac yn malio am danynt, ond y mae gyrfa llawer pregethwr wedi ei byrhau o ddiffyg y cysuron syml, ond gwerthfawr oedd yn perthyn i Dŷ Capel y Cwm. Byddai gan lu o honom "chwithdod" a hiraeth am dano; ond neb yn fwy felly na Marged Parri ei hunan. Yr oedd hi wedi treulio blynyddau hirfaith yng nghynteddau y deml. Gallai plant yr ardal