Ond bu Mr. Meredydd yn un a'i air, a rhoes dderbyniad cynnes a siriol i'r boneddwr,—ie, dyna'r gwir,—boneddwr oedd yn sefyll ger ei fron, yn ystyr oreu y gair. Mynnai iddo aros i swper, ond ymesgusodai Dafydd y noswaith honno,—
"Mae mam yn disgwyl am danaf heno; ond os caf alw yma eto, byddaf yn dra diolchgar."
Rhyngoch chwi a'ch gilydd, 'rwan,' ebai Mr. Meredydd, dan wenu; "ond gellwch fod yn sicr y bydd yma groeso calon bob amser."
Yn ystod y dydd drannoeth, daeth y luggage o'r station, a chafodd Marged Parri gryn drafferth i wneud lle i'r cwbl yn y Tŷ Capel.
"Fu 'rioed ffasiwn beth!" meddai. "Yr ydw i bron a chredu dy fod wedi dwad a mwy na hanner y 'Mericia i dy ganlyn."
Ym mysg y "presantau" yr oedd ffon â phen arian i Rolant Owen, Bryn Goleu; spectol aur i Shon William y crydd; llyfrau gwerthfawr i Mr. James Morris, yr ysgolfeistr;