"Tŷ Capel y Cwm!" Ac er nad oedd y distawrwydd arferol yn teyrnasu yno, cafodd Dafydd a finnau dipyn o egwyl i ymddiddan am hen bethau, ac am y pethau a fyddent ar ol hyn.
"Mi wyddost," meddwn wrtho, "fy mod yn bur hoff o holi 'hanes yr achos,' fel y dywedir. Pa bryd y y dechreuodd yr 'achos' rhyngot ti ag Elsie, tybed? fum i'n meddwl mai yr adeg honno, ers talwm, pan ddaru Arthur daflu dy gap dros y bont i'r afon."
"Wn i ddim, wir," ebai Dafydd. "Ond wyddost ti? Mi ddaeth Arthur adref heddyw, ac mi soniodd am yr un peth yn union,—
"Wyt ti wedi maddeu i mi,' meddai, 'am daflu dy gap di i'r afon ers llawer dydd? O ran hynny, hwyrach mod i wedi gwneud cymwynas in disguise. "
"Ac mi ddaethom yn ffrindie ar unwaith. Y mae Arthur, fel finnau, wedi dod dipyn yn gallach erbyn hyn.
Mae O, fel y gwyddost, mewn busnes yn Lerpwl, ac yno yr erys, yn ol pob tebyg. Mae