Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pregethwr "teithiol" ran helaeth o'i oes. Ac y mae ei gysur personol o nos Sadwrn hyd foreu Llun yn dibynnu, i raddau helaeth, ar awyrgylch y Tŷ Capel. Wrth ddefnyddio y gair "awyrgylch," nid wyf yn meddwl yn unig nac yn bennaf am yr swyr" naturiol; er fod rhy ychydig o honi mewn llawer un o'r mannau yr wyf son am danynt. Ond cyfeirio yr ydwyf at "awyrgylch y lle" ynddo ei hun. Y mae ambell Dy Capel mor ddwl a digysur fel y mae aros ynddo yn ddigon i fagu y pruddglwyf ar hirddydd haf. Ceir un arall sydd yn peri i'r ymwelydd adgofio geiriau Petr,—"Da yw i ni fod yma;' rhyw dangnefedd a hedd sydd yn parotoi ei ysbryd at waith y cysegr.

Meddyliau o'r fath oedd yn fy meddiannu pan yn cyrchu, ar nawn Sadwrn, i Dŷ Capel y Cwm. Er mwyn yr anghyfarwydd, hwyrach y caniateir i mi ddweud gair neu ddau am ddaearyddiaeth yr ardal. Y mae ei llinynau wedi disgyn yn un siroedd Gogledd Cymru,—sir enwog am ei bryniau a'i mân-ddyffrynnoedd. Rhwng y bryniau gwyrddleision hynny, cein cymoedd tawel, neillduedig, ac afonydd gloewon yn dwndwr trwyddynt. Ac un