o'r afonydd tlysaf y gwyddom am dani ydyw y " Ddeuddwr;" mae yr olwg arni yn yr haf yn gwirio darlun y bardd,—
"Elfen deneu, ysblennydd,
Lyfndeg, yn rhedeg yn rhydd."
Gyda glan y Ddeuddwr y mae'r ffordd henafol sy'n dirwyn i bentref y Rhyd; ac oddi yno, dros y mynydd i'r dyffryn ag y mae ei enw, fel yr eiddo ambell ddarlithydd, yn fyd-enwog.
Y mae'r capel yn agos i filldir ar y naill ochr i'r pentref. Y rheswm am hynny, yn ol traddodiad credadwy, ydoedd y ffaith fod y gynulleidfa yn dra gwasgarog; a rhag i'r pentrefwyr ymddangos yn rhy hunangeisiol, aed â'r capel tua hanner y ffordd i gyfarfod y bobl oedd yn dod o'r wlad. Capel hen ffasiwn, wrth gwrs; muriau ysgwar, buarth lled helaeth o flaen yr addoldy, ac ar ei dalcen, er yn llai ei faintioli, y mae'r "Tŷ Capel." O ran ei ymddanghosiad allanol, y mae yn hynod lanwedd a thwt; gardd fechan o bobtu'r drws, lle y tyf y rhosmari, rhosynau, "hen ŵr," y Sweet William, a'r pansi.
Gan fod yr hin yn braf, y mae y ddor