yn ol, i edrych am 'Pitar,' y bachgen acw, i Manchester; a doedden nhw ddim yn dechre y moddion yn y capel yno tan un-ar-ddeg,—yr adeg pan y byddwn ni yn troi adre! Yr oeddwn i allan o f'elfen yn lân, ac y mae arnai ofn na ches i fawr o 'fendith.' Ond rwy'n meddwl mai y ni sy'n reit; ac mai dyna ystyr blaen y pedwerydd gorchymyn, 'cadw y dydd Saboth,—nid darn o hono fo, ond y dydd i gyd."
Erbyn hyn yr oedd y blaenoriaid ereill wedi dod i fewn,—Edward Puw, y Ffridd, y dechreuwr canu; Joseph Jones y Siop y cyhoeddwr a a thrysorydd yr eglwys. Cwestiwn cyntaf Edward Puw ydoedd,—"A yw yr emynau yn barod gennych?" Bydd ambell bregethwr yn ateb yn nacaol, a gwelir Edward Puw yn mynd allan yn lled swta, a fydd dim llawer o hwyl arno yn y gwasanaeth hwnnw. Gwaith Joseph Jones fydd galw sylw at y "casgliad," a gofyn beth fydd i'w gyhoeddi yn ystod yr wythnos.
Yr oedd papyr wedi dod i'r Tŷ Capel oddiwrth gyfeillion "Salem" yn gofyn iddynt gyhoeddi y Concert oedd i fod yno nos Fercher.