capel, mae'n wir, ond nid i gongl y "sêt fawr." Eisteddai o'r golwg, yn ymyl y drws. Ac ni ddeuai i'r Tŷ Capel am fisoedd wedyn. Ofer oedd i Miss Meredydd ei wahodd. Synai llawer pregethwr nad oedd Shon William yno'n ymholi am ei wybodaeth dduwinyddol. Gwrthodai gymeryd rhan yn gyhoeddus. Ceisiai Rolant Owen ymliw âg ef, ond i ddim pwrpas.
"Ydech ch'i ddim yn teimlo tipyn o hireth am y'n cympeini ni ar b'nawn Sul?" ebai wrtho, pan yn galw yn y gweithdy. "Mae arno ni eisio eich gweled ch'i yn fawr; ac mi fyddwn yn son am danoch efo'n gilyad. A pheth arall, y mae'ch tro ch'i i holi yr Ysgol Sul jest yn ymyl 'rwan. Dowch i ni gael mynd ymlaen efo'r bennod honno yn y 'Fforddwr, i edrych yden ni yr un farn ag oedd ganddo ni'r llynedd. Fydda i ddim yn gweld dim byd yn curo'r 'Fforddwr i holi'r ysgol, ac mi 'rydech ch'i yn reit gartrefol yn o fo o'i ddechre i'w ddiwedd."
"Wna i ddim byd byth," meddai, "tra y bydd yr hen beth ene yn cadw swn drwg. Yr ydyw i'n synnu atoch chi, Rolant Owen, mor chwim-chwam, yn troi