Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ardderchog. Pregethodd y "gŵr diarth" ar hanes Elias yn yr ogof. "Pa beth a wnei di yma, Elias? Wedi dy ado dy hunan a ddywedaist? Dim o'r fath! Y mae yna saith mil na phlygasant eu gliniau i Baal. Pa beth a wnei di yma? A ddywedaist ti fod dy waith ar ben? Yr wyt yn camsynied eto! Nid pen Carmel ydyw pen draw dy yrfa. Y mae eisieu i ti eneinio brenin a phroffwyd newydd."

Yna aeth rhagddo i ddangos fel y mae pobl dda eto,—y bobl oreu yn fynych,—yn cael eu tynu i'r ogof,—ogof amheuon, ogof rhagfarn, &c. Ond lle tywyll iawn yw yr ogof," ebai y pregethwr, "'does yno ddim goleuni na chysur i neb.

Ac y mae Duw yn gofyn i ambell un heno,—Pa beth a wnei di yma?' Y mae dy eisieu eto i gyflawni gwaith drosto ef."

Ar derfyn y bregeth galwyd seiat, a chaed fod dau neu dri wedi aros o'r newydd,—peth pur amheuthyn yn y Cwm ers cryn amser. Wedi ymddiddan yn dyner â'r dychweledigion, a rhoddi iddynt gynghorion priodol, gofynnodd y y "gŵr diarth" i Shon William ddweud "gair.' Ac er syndod i bawb, cododd ar ei draed,