wedi arfer â'r steeple-chase, ac yn cael eu porthi yn y modd goreu.
"Oes, mae gen' i geffyl yn yr ystabl,' ebai y gŵr, ond a wyddoch chwi rywbeth am farchogaeth?'
"Atebais yn gadarnhaol, ac yr oedd hynny yn eitha' gwir. Yr oeddwn wedi bod am gyfnod yn stable-boy yn y Maes Mawr. Ar ol cytuno ar y pris, dywedai y byddai y march yn barod yn ebrwydd, ar un amod,—fy mod i ddychwelyd adre' nos Sul.
"Yr oedd y 'bechgyn' oedd gartref wedi synnu braidd glywed fy mod yn cael ceffyl y Crown; a daeth rhai o honynt i weled 'Jacob' yn cychwyn i'w daith, ac yr oeddynt yn 'ffarwelio' â mi yn ddefosiynol iawn, rhag ofn na ddeuwn byth yn ol!
Mi eis drwy y dref yn eithaf respectable, gan ddal y ffrwyn yn dyn yn fy llaw. Croeswyd y mynydd, a chyrhaeddais fy llety yn ddiogel.
"Nid yr un o gyffyle Reis ydyw hwn,' meddai y ffermwr, a rhoddodd ef yn yr ystabl oreu.
Cyn cychwyn i'r capel at oedfa'r hwyr,