chwip, ac i ffwrdd â ni! Yr oedd y dyn erbyn hyn yn ymyl y llidiart, ac yn disgwyl am danaf. Ond pan welodd y ceffyl yn dod ar garlam gwyllt, neidiodd o'r neilldu, a neidiodd y ceffyl yn glir dros y llidiart, i'r mynydd, ac ymaith âg ef fel pe buasem yn hela llwynog! Yr oeddwn yn y Bala ar fyrder, a'r ceffyl, druan, yn foddfa o chwys."
"Adroddais yr hanes wrth wr y Crown Edrychodd yn gyffrous. 'Be dasech ch'i wedi methu neidio y llidiart, ac wedi lladd y ceffyl?'
"Y dydd canlynol, yr oedd gŵr y Crown yn ail-adrodd hanes fy anturiaeth efo'r 'crwydryn,' ac yn sicrhau y buaswn yn ennill enwogrwydd drwy y wlad pe cawswn chance i ddilyn cwn hela Syr Watcyn! Gorfu i minnau fynd dros y stori fwy nag unwaith yn y cylch cyfrin gyda'r nos, a braidd nad oeddwn yn mynd i ddechreu meddwl rhywbeth o honof fy hun. Ond peth ansicr iawn ydyw pob enwogrwydd daearol. Y Saboth dilynol, yr oedd y brawd Evan Gruffudd, cyd-efrydydd, i fod yn nhaith y Bwlch Mawr. Yr oedd Evan a minnau yn dipyn o rivals