Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ty Capel y Cwm.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Paid a chrio, ngeneth i. Fedra i ddim dal peth fel ene. Dywed wrth Dafydd am ddod adref cyn gynted ag y bydd yn gyfleus iddo; a dywed hefyd na raid iddo ddim ofni dod i edrych am danom ni i Blas y Wern." OOOOO Yr oedd pwyllgor y capel newydd yn cyfarfod bob wythnos, ac yr oedd pawb yn unfryd unfarn y dylesid cael addoldy hardd a gorffenedig, teilwng o'r achos yn y Cwm.

"Ond capel ydyw i fod," ebai Rolant Owen, "nid eglwys 'rwan; y mae un eglwys yn ddigon yn y plwy'."

Yr oedd Edward Puw yn selog dros gael "set ganu" helaeth, ond ofnai Joseph Jones y buasai hynny yn cyfyngu ar y "set fawr."

Yr oedd rhai yn dadleu dros "ostwng" y pulpud, ond yr oedd Shon William yn credu yn gryf y buasai hynny yn tueddu at ostwng safon y weinidogaeth.

Dadleuai ereill dros gael vestry gyfleus ar gyfer cyfarfodydd yr wythnos, ac er