PENNOD XX.
Ystryw Mileinig.
YN y rhyfel erch rhwng Prydain a'i Threfedigaethau digon gwrthun ar ran y famwlad ydoedd talu tramorwyr o'r Cyfandir i ddwyn cledd yn erbyn ei phlant ei hun. Ond fel yr ai y Rhyfel yn boethach ac yn ffyrnicach, nid gormod fu gan y ddwy ochr i hurio Indiaid Cochion y paith hyd yn oed, at yr anfadwaith. Ac am yr Indiaid eu hunain, druain, llofruddio'n ddirgel a dichellgar a gyfrifent hwy y gamp fwyaf.
Y dydd cyn troedio o'r golofn i mewn i dref Trenton, caed corff un o'r gwyliedyddion Prydeinig a oedd bellaf oddiwrth y gwersyll wedi ei faeddu'n ddychrynllyd. Gwelwyd ar unwaith wrth ol y tomahawk ar y penglog mai gwaith rhyw Indiad neu'i gilydd ydoedd, er na wyddid fod Indiad o gwbl yn yr ardal ar y pryd.
Ond beth am hynny, rhaid wrth wyliedydd ar bob adeg, a daeth i ran Private Prydderch o'r 60th i gymryd lle y truan a laddwyd. Ac am fod Jim ddewr on sentry yn y man peryglus hwn, dyna'r rheswm i Wat fethu dyfod o hyd iddo yn ei ymchwil cyntaf, a phe bai ef ond wedi cyrraedd y gwersyll awr yn gynt, fe a welsai ei gyfaill yn cychwyn i'r llannerch marwol wedi ysgwyd o'i law mewn edmygedd gan gapten ei gwmni.
A'r gwersyll eto rhwng cwsg a dihun yn oriau mân y bore, clybuwyd gwaedd. Neidiodd pob milwr i'w draed gan estyn am ei fwsged, ond pan