Prawfddarllenwyd y dudalen hon
4
Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 (dsc 2)
- (b) cânt ei gwneud yn ofynnol i bleidleisio ar ddiwrnodau ychwanegol ddigwydd mewn lleoliadau penodol neu ddisgrifiadau neu gategorïau o leoliadau a bennir yn y rheoliadau;
- (c) cânt addasu ystyr cyfeiriad perthnasol i’r graddau y mae’n ymwneud â darpariaeth a wneir yn y rheoliadau.
- (4) Yn is-adran (3), ystyr “cyfeiriad perthnasol” yw cyfeiriad (sut bynnag y’i mynegir) mewn unrhyw ddeddfiad neu ddogfen at ddiwrnod neu ddyddiad y pôl yn etholiad 2021.
- (5) Rhaid i’r Comisiwn Etholiadol ddarparu cyngor mewn perthynas ag arfer y pŵer yn isadran (2) os gofynnir iddo wneud hynny gan Weinidogion Cymru.
- (6) Wrth osod rheoliadau drafft o dan is-adran (7) gerbron Senedd Cymru, rhaid i Weinidogion Cymru ar yr un pryd osod gerbron Senedd Cymru ddatganiad o’r rhesymau dros y rheoliadau.
- (7) Rhaid i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (2) gael ei osod gerbron Senedd Cymru ac mae’n peidio â chael effaith pan fo 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y’i gwneir yn dod i ben, oni bai bod Senedd Cymru yn ei gymeradwyo drwy benderfyniad cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.
- (8) Ond—
- (a) os yw Senedd Cymru yn pleidleisio ar gynnig ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo offeryn statudol a osodir o dan is-adran (7) cyn i’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-adran honno ddod i ben, a
- (b) os na chaiff y cynnig ei basio,
- mae’r offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd diwrnod y mae’r bleidlais yn digwydd.
- (9) Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o 28 o ddiwrnodau at ddibenion is-adran (7), rhaid diystyru unrhyw gyfnod pan fo Senedd Cymru—
- (a) wedi ei diddymu, neu
- (b) ar doriad am fwy na 4 diwrnod.
- (10) Nid yw is-adrannau (7) ac (8)—
- (a) yn effeithio ar unrhyw beth a wneir drwy ddibynnu ar y rheoliadau cyn iddynt beidio â chael effaith, neu
- (b) yn atal gwneud rheoliadau newydd.
- (11) Nid yw rheoliadau o dan is-adran (2) yn cael unrhyw effaith pan fo’r pôl yn etholiad 2021 a’r pôl yn etholiad arferol comisiynwyr heddlu a throseddu ar gyfer ardaloedd heddlu yng Nghymru i’w cynnal gyda’i gilydd o dan erthygl 16A o Orchymyn 2007.
- (12) Yn is-adran (11), mae i “etholiad arferol comisiynwyr heddlu a throseddu ar gyfer ardaloedd heddlu” yr ystyr a roddir i “ordinary election of police and crime commissioners for police areas” yn adran 50 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (p. 13).