Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Welsh Elections (Coronavirus) Act 2021 (ASC 2021-2 qp).pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
6
Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 (dsc 2)

(3) Wrth bennu diwrnod o dan is-adran (2), rhaid i’r Llywydd bennu diwrnod sef y diwrnod cynharaf y mae’r Llywydd yn ystyried ei fod yn rhesymol ymarferol.
(4) O ran y pŵer o dan is-adran (2)—
(a) caniateir iddo gael ei arfer fwy nag unwaith, a
(b) ni chaniateir iddo gael ei arfer er mwyn pennu dyddiad ar ôl 5 Tachwedd 2021.
(5) Cyn arfer y pŵer o dan is-adran (2), rhaid i’r Llywydd ymgynghori â Gweinidogion Cymru.

11Pŵer i ohirio is-etholiadau awdurdodau lleol

(1) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau a wneir drwy offeryn statudol, ddarparu—
(a) bod y pôl ar gyfer is-etholiad awdurdod lleol i’w gynnal ar ddyddiad, neu o fewn cyfnod, a bennir yn y rheoliadau;
(b) bod y pôl ar gyfer is-etholiad awdurdod lleol y byddai’n ofynnol ei gynnal fel arall ar ddyddiad sy’n dod o fewn cyfnod a bennir yn y rheoliadau i’w gynnal yn lle hynny ar ddyddiad diweddarach, neu o fewn cyfnod arall, a bennir yn y rheoliadau.
(2) Yn yr adran hon, ystyr “is-etholiad awdurdod lleol” yw etholiad—
(a) pan fo dyddiad y pôl ar gyfer yr etholiad yn dod o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 6 Mai 2021 ac sy’n dod i ben â 5 Tachwedd 2021, a
(b) pan fo’n etholiad i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag mewn cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru.
(3) Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) bennu—
(a) dyddiad ar ôl 5 Tachwedd 2021, neu
(b) cyfnod sy’n dod i ben ar ôl 5 Tachwedd 2021.
(4) Caniateir i’r pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (1) gael ei arfer fwy nag unwaith mewn cysylltiad ag unrhyw is-etholiad awdurdod lleol.
(5) Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth drwy gyfeirio at is-etholiadau awdurdodau lleol o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau (er enghraifft, drwy gyfeirio at natur, dyddiad neu leoliad yr etholiadau).
(6) Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (1) yn cynnwys y pŵer i ddiwygio, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.
(7) Mae is-adran (8) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (1) sy’n diwygio, yn addasu neu’n diddymu darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol.
(8) Rhaid i offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo gael ei osod gerbron Senedd Cymru ac mae’n peidio â chael effaith pan fo 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y’i gwneir yn dod i ben, oni bai bod Senedd Cymru yn ei gymeradwyo drwy benderfyniad cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.