Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Welsh Elections (Coronavirus) Act 2021 (ASC 2021-2 qp).pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
7
Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 (dsc 2)

(9) Ond—
(a) os yw Senedd Cymru yn pleidleisio ar gynnig ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo offeryn statudol a osodir o dan is-adran (8) cyn i’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-adran honno ddod i ben, a
(b) os na chaiff y cynnig ei basio,
mae’r offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y diwrnod y mae’r bleidlais yn digwydd.
(10) Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o 28 o ddiwrnodau at ddibenion is-adran (8), rhaid diystyru unrhyw gyfnod pan fo Senedd Cymru—
(a) wedi ei diddymu, neu
(b) ar doriad am fwy na 4 diwrnod.
(11) Nid yw is-adrannau (8) ac (9)—
(a) yn effeithio ar unrhyw beth a wneir drwy ddibynnu ar y rheoliadau cyn iddynt beidio â chael effaith, neu
(b) yn atal gwneud rheoliadau newydd.
(12) Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (1) ac nad yw is-adran (8) yn gymwys iddo yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

12Gorchmynion a rheolau ynglŷn â chynnal etholiadau yn 2021

(1) Mae is-adran (3) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn o dan adran 13(1)(a) o Ddeddf 2006 (pŵer i wneud gorchymyn o ran cynnal etholiadau’r Senedd) sy’n cynnwys darpariaeth—
(a) nad yw ond yn gymwys i etholiad 2021, neu
(b) nad yw ond yn gymwys i etholiad o dan adran 10 o Ddeddf 2006 i lenwi sedd wag aelod etholaethol y mae’r pôl ar ei gyfer i’w gynnal cyn 6 Tachwedd 2021.
(2) Mae is-adran (3) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheolau o dan adran 36A o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2) (pŵer i wneud rheolau mewn perthynas â chynnal etholiadau cynghorwyr ar gyfer ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru) nad ydynt ond yn gymwys i etholiad i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag mewn cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru y mae’r pôl ar ei gyfer i’w gynnal cyn 6 Tachwedd 2021.
(3) Rhaid i offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo gael ei osod gerbron Senedd Cymru ac mae’n peidio â chael effaith pan fo 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y’i gwneir yn dod i ben, oni bai bod Senedd Cymru yn ei gymeradwyo drwy benderfyniad cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.
(4) Ond—
(a) os yw Senedd Cymru yn pleidleisio ar gynnig ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo offeryn statudol a osodir o dan is-adran (3) cyn i’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-adran honno ddod i ben, a