Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Welsh Elections (Coronavirus) Act 2021 (ASC 2021-2 qp).pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
8
Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 (dsc 2)

(b) os na chaiff y cynnig ei basio,
mae’r offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y diwrnod y mae’r bleidlais yn digwydd.
(5) Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o 28 o ddiwrnodau at ddibenion is-adran (4), rhaid diystyru unrhyw gyfnod pan fo Senedd Cymru—
(a) wedi ei diddymu, neu
(b) ar doriad am fwy na 4 diwrnod.
(6) Nid yw is-adrannau (3) a (4)—
(a) yn effeithio ar unrhyw beth a wneir drwy ddibynnu ar y rheolau neu’r gorchymyn cyn iddynt neu cyn iddo beidio â chael effaith, nac
(b) yn atal gwneud rheolau newydd neu orchymyn newydd.

Atodol

13Effaith y Ddeddf hon ar y pŵer presennol i wneud darpariaeth ynghylch etholiadau

(1) Nid yw’r Ddeddf hon yn effeithio ar bŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn o dan adran 13 o Ddeddf 2006, ond mae is-adran (7) o’r adran honno (gweithdrefn Senedd Cymru) yn ddarostyngedig i adran 12.
(2) Nid yw’r Ddeddf hon yn effeithio ar bŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheolau o dan adran 36 neu adran 36A o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2), ond mae adran 36A(10) (gweithdrefn Senedd Cymru) yn ddarostyngedig i adran 12.

14Addasu Gorchymyn 2007

(1) Mae Gorchymyn 2007 wedi ei addasu mewn perthynas ag etholiad 2021 fel a ganlyn.
(2) Mae erthygl 2(1) (dehongli) yn cael effaith fel pe bai’n cynnwys y diffiniad o “coronavirus” a roddir gan adran 16.
(3) Yn erthygl 84(2)(b) (amseru o ran pryd y mae person yn dod yn ymgeisydd mewn perthynas ag etholiad cyffredinol i’r Senedd) yn cael effaith—
(a) fel pe bai “the ordinary general election for membership of Senedd Cymru the poll for which is, on the day on which this provision comes into force, due to be held on 6 May 2021” wedi ei roi yn lle “any subsequent Assembly election”;
(b) ym mharagraff (i), fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-baragraff (aa)—
“(aa) which is 21 days before 6 May 2021, computed in accordance with rule 2 of the rules set out in Schedule 5;”.
(4) Yn Atodlen 1, mae paragraff 7 (y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am bleidleisio absennol yn etholiadau’r Senedd) yn cael effaith—
(a) fel pe bai “and sub-paragraph (3A)” yn is-baragraff (2) wedi ei fewnosod ar ôl “sub-paragraph (3)”;
(b) fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (3)—
“(3A) Where an application—