Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Welsh Elections (Coronavirus) Act 2021 (ASC 2021-2 qp).pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
11
Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 (dsc 2)

(a) darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol;
(b) darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.
(2) Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)—
(a) gwneud darpariaeth ôl-weithredol mewn perthynas ag is-etholiad awdurdod lleol o fewn yr ystyr a roddir gan adran 11(2), gan gynnwys darpariaeth sy’n cael effaith mewn perthynas ag adegau cyn i’r Ddeddf hon ddod i rym;
(b) diwygio, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn y Ddeddf hon);
(c) gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer ardaloedd gwahanol.
(3) Mae is-adran (4) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (1) sy’n diwygio, yn addasu neu’n diddymu darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol.
(4) Rhaid i offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo gael ei osod gerbron Senedd Cymru ac mae’n peidio â chael effaith pan fo 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y’i gwneir yn dod i ben, oni bai bod Senedd Cymru yn ei gymeradwyo drwy benderfyniad cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.
(5) Ond—
(a) os yw Senedd Cymru yn pleidleisio ar gynnig ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo offeryn statudol a osodir o dan is-adran (4) cyn i’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-adran honno ddod i ben, a
(b) os na chaiff y cynnig i basio,
mae’r offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y diwrnod y mae’r bleidlais yn digwydd.
(6) Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o 28 o ddiwrnodau at ddibenion is-adran (4), rhaid diystyru unrhyw gyfnod pan fo Senedd Cymru—
(a) wedi ei diddymu, neu
(b) ar doriad am fwy na 4 diwrnod.
(7) Nid yw is-adrannau (4) a (5)—
(a) yn effeithio ar unrhyw beth a wneir drwy ddibynnu ar y rheoliadau cyn iddynt beidio â chael effaith, neu
(b) yn atal gwneud rheoliadau newydd.
(8) Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (1) ac nad yw is-adran (4) yn gymwys iddo yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

18Dod i rym

Daw’r Ddeddf hon i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y cydsyniad Brenhinol.