Prawfddarllenwyd y dudalen hon
2
Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 (dsc 2)
- (a) bod y Llywydd yn arfer y pŵer a roddir gan adran 6 (pŵer i ohirio etholiad 2021 am hyd at 6 mis), neu
- (b) bod Ei Mawrhydi yn diddymu Senedd Cymru cyn y diwrnod hwnnw drwy broclamasiwn o dan adran 4(2) o Ddeddf 2006 (pŵer i amrywio dyddiad etholiad cyffredinol arferol y Senedd).
- (2) Os yw’r Llywydd yn arfer y pŵer a roddir gan adran 6, diddymir Senedd Cymru ar ddechrau’r cyfnod o 7 niwrnod sy’n dod i ben yn union cyn y diwrnod a bennir ar gyfer cynnal y pôl, oni bai bod is-adran (3) yn gymwys.
- (3) Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r Llywydd, cyn y diwrnod y bwriedir diddymu Senedd Cymru yn unol ag is-adran (2), yn arfer y pŵer a roddir gan adran 6 eto (ac, yn unol â hynny, mae is-adran (2) yn gymwys i’r arfer hwnnw o’r pŵer yn ei dro).
4Canllawiau ar arfer swyddogaethau yn y cyfnod cyn yr etholiad
- (1) Rhaid i’r Prif Weinidog gyhoeddi canllawiau ynghylch arfer swyddogaethau’r Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad ar gyfer etholiad 2021.
- (2) Rhaid i’r Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol roi sylw i’r canllawiau.
- (3) Rhaid i’r Prif Weinidog benderfynu ar y cyfnod cyn yr etholiad ar gyfer etholiad 2021 at ddiben yr adran hon.
- (4) Rhaid i’r cyfnod y penderfynir arno gynnwys y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod a bennir ar gyfer cynnal y pôl ar gyfer etholiad 2021.
- (5) Rhaid i’r canllawiau gael eu cyhoeddi cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
5Dyddiad y cyfarfod cyntaf ar ôl etholiad 2021
- Rhaid i Senedd Cymru gyfarfod o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau yn union ar ôl y diwrnod y cynhelir y pôl ar gyfer etholiad 2021.
6Pŵer i ohirio etholiad 2021 am hyd at 6 mis
- (1) Caiff Prif Weinidog Cymru (“y Prif Weinidog”) gynnig i’r Llywydd fod y pôl ar gyfer etholiad 2021 yn cael ei ohirio os yw’r Prif Weinidog, am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws, yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol gwneud hynny.
- (2) Ond cyn gwneud cynnig o dan is-adran (1), rhaid i’r Prif Weinidog ymgynghori â’r aelod o staff yn Llywodraeth Cymru sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru yn Brif Swyddog Meddygol Cymru.
- (3) Yn dilyn cynnig gan y Prif Weinidog, caiff y Llywydd bennu diwrnod ar gyfer cynnal y pôl ar gyfer etholiad 2021—
- (a) os yw Senedd Cymru yn cymeradwyo’r diwrnod sydd i’w bennu drwy benderfyniad sy’n cael ei basio drwy bleidlais nad yw nifer Aelodau’r Senedd sy’n pleidleisio o’i blaid yn llai na dwy ran o dair o gyfanswm nifer seddi’r Senedd, a
- (b) os nad yw Senedd Cymru wedi ei diddymu.