Prawfddarllenwyd y dudalen hon
3
Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 (dsc 2)
- (4) Wrth bennu diwrnod ar gyfer cynnal y pôl—
- (a) rhaid i’r Llywydd bennu diwrnod sef y diwrnod cynharaf y mae’r Llywydd yn ystyried ei fod yn rhesymol ymarferol;
- (b) ni chaiff y Llywydd bennu diwrnod sydd ar ôl 5 Tachwedd 2021.
- (5) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl pennu diwrnod ar gyfer cynnal y pôl, rhaid i’r Llywydd osod gerbron Senedd Cymru ddatganiad—
- (a) o’r diwrnod a bennwyd ar gyfer cynnal y pôl, a
- (b) o’r rheswm dros arfer y pŵer i bennu diwrnod.
- (6) Rhaid i’r Comisiwn Etholiadol ddarparu cyngor mewn perthynas â gohirio pôl os yw’r Llywydd neu’r Prif Weinidog yn gofyn iddo wneud hynny.
- (7) Caniateir i’r pwerau yn is-adrannau (1) a (3) gael eu harfer fwy nag unwaith.
- (8) Rhaid i’r Prif Weinidog osod datganiad gerbron Senedd Cymru ar neu cyn 24 Mawrth 2021 sy’n nodi pa un a yw’r Prif Weinidog yn bwriadu arfer y pŵer yn is-adran (1) ai peidio.
- (9) Os nad yw’r Prif Weinidog yn bwriadu arfer y pŵer, rhaid i’r datganiad nodi—
- (a) y rhesymau dros beidio ag arfer y pŵer, a
- (b) a ellir cynnal ymgyrch etholiadol lawn a theg, ym marn y Prif Weinidog, gan bob person sy’n ceisio cael ei ethol yn etholiad 2021 nad yw’n rhoi unrhyw berson sy’n gymwys i bleidleisio yn yr etholiad hwnnw o dan anfantais.
- (10) Nid yw unrhyw fwriad a fynegir yn y datganiad o dan is-adran (8) yn effeithio ar arfer y pŵer yn is-adran (1).
- (11) Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n cyfyngu ar y pŵer yn adran 4 o Ddeddf 2006 i amrywio dyddiad etholiad cyffredinol arferol i fod yn Aelod o’r Senedd.
- (12) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r meini prawf sydd i’w defnyddio gan y Prif Weinidog ar gyfer penderfynu a yw’n angenrheidiol neu’n briodol gohirio’r pôl ar gyfer etholiad 2021 am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws o dan is-adran (1).
- (13) Rhaid i’r meini prawf gael eu cyhoeddi cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
7Pŵer i ddarparu ar gyfer diwrnodau pleidleisio ychwanegol
- (1) Mae’r adran hon yn gymwys os pennir y diwrnod ar gyfer cynnal pôl etholiad 2021 o dan adran 6.
- (2) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau a wneir drwy offeryn statudol, ddarparu y caiff y pleidleisio na fyddai fel arall yn ofynnol iddo ddigwydd ond ar y dyddiad a bennir o dan adran 6 ddigwydd ar un neu ragor o ddiwrnodau ychwanegol a bennir yn y rheoliadau.
- (3) O ran rheoliadau o dan is-adran (2)—
- (a) ni chânt bennu diwrnod ond os yw’n dod o fewn y cyfnod o 7 niwrnod yn union cyn y diwrnod a bennir ar gyfer cynnal y pôl;