Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Welsh Tax Acts etc. (Power to Modify) Act 2022 (ASC 2022-2 qp).pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
4
Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 (dsc 2)

(5) Os na chymeradwyir yr offeryn drwy benderfyniad gan Senedd Cymru yn ystod y cyfnod o 60 niwrnod sy'n dechrau â'r diwrnod y gwneir yr offeryn, mae'r rheoliadau sydd wedi eu cynnwys yn yr offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.
(6) Ond—
(a) os yw Senedd Cymru yn pleidleisio ar gynnig ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo'r offeryn cyn diwrnod olaf y cyfnod hwnnw, a
(b) os na chaiff y cynnig ei basio, mae'r rheoliadau sydd wedi eu cynnwys yn yr offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y diwrnod y cynhelir y bleidlais.
(7) Ni chaniateir gwneud cynnig yn Senedd Cymru ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo'r offeryn yn ystod y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau â'r diwrnod y gwneir yr offeryn.
(8) Wrth gyfrifo'r cyfnodau a grybwyllir yn is-adrannau (5), (6) a (7), rhaid diystyru unrhyw adeg pan fo Senedd Cymru—
(a) wedi ei diddymu, neu
(b) ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

5Rheoliadau'n peidio â chael effaith: atodol

(1) Mae'r adran hon yn gymwys pan fo rheoliadau'n peidio â chael effaith o ganlyniad i adran 4(5) neu (6).
(2) Mae unrhyw atebolrwydd i dreth trafodiadau tir neu dreth gwarediadau tirlenwi, neu i swm uwch o'r naill neu'r llall o'r trethi hynny, na fyddai wedi codi oni bai am y rheoliadau i'w drin fel pe na bai erioed wedi codi.
(3) Mae unrhyw dynnu yn ôl hawlogaeth i gredyd treth (o fewn ystyr adran 96 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (dccc 3)), neu leihau hawlogaeth o'r fath, na fyddai wedi digwydd oni bai am y rheoliadau i'w drin fel pe na bai erioed wedi digwydd.
(4) Mae unrhyw atebolrwydd i gosb o dan unrhyw un neu ragor o Ddeddfau Trethi Cymru neu reoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o'r Deddfau hynny, neu i swm uwch o gosb o'r fath—
(a) a gododd cyn i'r rheoliadau beidio â chael effaith, ond
(b) na fyddai wedi codi oni bai am y rheoliadau, i'w drin fel pe na bai erioed wedi codi.
(5) Nid yw'r ffaith bod y rheoliadau wedi peidio â chael effaith yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wnaed yn flaenorol o dan y rheoliadau neu drwy ddibynnu arnynt.

6Adolygu gweithrediad ac effaith y Ddeddf hon

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) adolygu gweithrediad ac effaith y Ddeddf hon, a
(b) cyhoeddi casgliadau'r adolygiad cyn diwedd y cyfnod o 4 blynedd sy'n dechrau â'r diwrnod y daw'r Ddeddf hon i rym.