Gwirwyd y dudalen hon
1
Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 (dsc 2)

Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022
Deddf gan Senedd Cymru i roi pŵer i Weinidogion Cymru i addasu Deddfau Trethi Cymru a rheoliadau a wneir o dan y Deddfau hynny at ddibenion penodedig; ac i wneud darpariaeth at ddibenion cysylltiedig.
[8 Medi 2022]
Gan ei fod wedi ei basio gan Senedd Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:
1Pŵer i addasu Deddfau Trethi Cymru etc.
- (1) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, addasu unrhyw un neu ragor o Ddeddfau Trethi Cymru a rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o'r Deddfau hynny os ydynt yn ystyried bod yr addasiadau'n angenrheidiol neu'n briodol at unrhyw un neu ragor o'r dibenion a ganlyn neu mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor ohonynt—
- (a) sicrhau na osodir treth gwarediadau tirlenwi neu dreth trafodiadau tir pan fyddai gwneud hynny yn anghydnaws ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol;
- (b) amddiffyn rhag osgoi trethi mewn perthynas 4 threth gwarediadau tirlenwi neu dreth trafodiadau tir
- (c) ymateb i newid i dreth ragflaenol sy'n effeithio, neu a allai effeithio, ar y symiau a delir i mewn i Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 118(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);
- (d) ymateb i benderfyniad llys neu dribiwnlys sy'n effeithio, neu a allai effeithio, ar weithrediad unrhyw un neu ragor o Ddeddfau Trethi Cymru neu reoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o'r Deddfau hynny.
- (2) Ond gweler adran 2(4), (5) a (6) (cyfyngiadau ar y pŵer).
- (3) Yn y Ddeddf hon, ystyr "Deddfau Trethi Cymru" yw —
- (a) Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6);
- (b) Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (decc 1);
- (c) Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (dccc 3).