Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Welsh Tax Acts etc. (Power to Modify) Act 2022 (ASC 2022-2 qp).pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
3
Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 (dsc 2)

(b) rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o'r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (dccc 1) (rheoliadau sy'n pennu bandiau treth a chyfraddau treth ar gyfer treth trafodiadau tir)—
(i) adran 24(1);
(ii) paragraff 27(4) o Atodlen 6;
(iii) paragraff 28(1) o'r Atodlen honno;
(c) rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o'r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (dccc 3) (rheoliadau sy'n pennu cyfraddau treth ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi)—
(i) adran 14(3);
(ii) adran 14(6);
(iii) adran 46(4).
(5) Ni chaiff rheoliadau o dan adran 1 wneud unrhyw ddarpariaeth sy'n ymwneud ag ymchwilio i droseddau.
(6) Ni chaiff rheoliadau o dan adran 1 newid unrhyw weithdrefn gan Senedd Cymru sy'n ymwneud â gwneud offeryn statudol o dan unrhyw ddarpariaeth yn y Deddfau hynny.
(7) Nid yw'r pŵer a roddir gan adran 1 yn effeithio ar unrhyw bŵer arall sydd gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddfau Trethi Cymru, ac nid yw unrhyw bŵer arall sydd ganddynt o dan Ddeddfau Trethi Cymru yn effeithio ar y pŵer a roddir gan yr adran honno.

3Datganiad polisi: rheoliadau o dan adran 1 sy'n cael effaith ôl-weithredol

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad o'u polisi mewn cysylltiad ag arfer y pŵer o dan adran 1 i wneud rheoliadau sy'n cael effaith ôl-weithredol.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi'r datganiad cyn diwedd y cyfnod o dri mis sy'n dechrau â'r dyddiad y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r datganiad, ac os gwnânt hynny, rhaid iddynt gyhoeddi'r datganiad diwygiedig.

4Gweithdrefn ar gyfer rheoliadau o dan adran 1

(1) Mae'r pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 1 yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(2) Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau o dan adran 1 oni bai—
(a) bod drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad, neu
(b) bod Gweinidogion Cymru o'r farn, oherwydd brys, ei bod yn angenrheidiol gwneud y rheoliadau heb fod drafft o'r offeryn wedi ei osod a'i gymeradwyo yn y modd hwnnw.
(3) Mae is-adrannau (4) i (8) yn gymwys i offeryn a wneir heb fod drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
(4) Rhaid gosod yr offeryn gerbron Senedd Cymru.