Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Wil Brydydd y Coed.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae lle i feddwl fod gan yr Awdwr athrylithgar, fel gan ffughaneswyr mwy adnabyddus i'r byd, ryw bersonau gwirioneddol mewn golwg pan yn cofnodi helyntion ei gymmeriadau dychymmygol. Nid oedd, y mae yn debygol, yn deall yn llawn ei allu fel ysgrifenydd; ac y mae yn golled i lenyddiaeth Gymreig na bu iddo droi ei feddwl at waith cyffelyb yn gynnarach. Bu ar ddwy achlysur yn agos â llithro i'r llwybr ffughanesol yn 1860. Yn y flwyddyn hòno, ymddangosodd dau gofiant o'i eiddo yn yr Haul—"Cofiant Siencyn Bach y Llwywr," a "Chofiant Dai Hunan dyb;" ond gorphenwyd hwynt mewn ychydig dudalenau.[1] Y mae'r ddau yn dangos arwyddion o'r unrhyw alluoedd treiddiol ag a welir yn helaethach yn Hanes "Wil." Attodwyd hwynt ar ol y gwaith anorphenedig.

Y CYHOEDDWR.

Caerfyrddin, Awst, 1876.
  1. ↑ Gweler yr HAUL am fisoedd Mehefin, Awst, a Thachwedd, 1860.