WIL BRYDYDD Y COED.
I.
MAE llawer yn barnu ar Wil, ac yn dywedyd eu dewis chwedlau am dano, ac yn chwerthin am ei ben; ac ar amryw ystyriaethau, nid yw hyn yn rhyfeddod yn y byd; canys y mae mewn llawer o bethau wedi myned yn hynod o ddwl: ond eto, er hyn, chwareu teg i Wil, o blegid ar y cwbl, y mae yn fachgen ffamws. Mae Wil yn llawn o garedigrwydd; mae yn gyfaill trwyadl lle byddo, ac yn ddiddichell hollol; ond fel y mae yn waethaf iddo ef, y mae wedi penddaru yn hollol er pan yr aeth yn brydydd, fel nad ydyw yn gwneyd na daioni iddo ei hun, nac i neb arall. Yr oedd Wil yn grefftwr da; daeth ym mlaen yn rhyfeddol; yr oedd yn dechreu ymaflyd yn ei grefft o ddifrif; a phawb yn dyweyd, 'Fe ddaw Wil yn ddyn.' Ond y mae'r brydyddiaeth Satan yma wedi taflu cwmwl arno; ac oni chymmer tro buan le, digon tebyg bod ei ddefnyddioldeb a'i gysuron wedi cael eu dinystrio am ei oes. Mae cof gweddol dda gan Wil, ac y mae wedi darllen bageidach o hen lyfrau Cymreig, megys Drych y Prif Oesoedd, Y Bardd Cwsg, a'r Oes Lyfr; ac yr oedd, megys ag y mae yn parhau i fod, yn selog iawn dros y Cymru a Chymraeg. Mae yn credu yn hollol mai'r Cymry oedd yn byw yng Nghaerdroia-mai Cymry oedd Sadwrn, Iou, Mawrth, a'r holl dduwiau paganaidd-mai Cymraeg oedd iaith y Baradwys ddaiarol-ac mai Cymraeg fydd iaith y Baradwys nefol. Mae yn credu holl brophwydoliaethau Myrddin yn yr hen gân, 'Chwi fonedd a chyffredin, y Cymry a'r Seison pur,' &c.; ac mae yn credu yn Owen Lawgoch; ac y bydd i'r Seison gael eu hymlid o Loegr, ac y bydd i'r Cymry eto feddiannu'r deyrnas, y goron, a'r cwbl; ac os cymmer hyn le, bydd y 'menyn yn lled deneu ar fara'r Sais. Mae Wil yn credu nas gall neb brydyddu fel y Cymry, ac nad oes genedl ar wyneb y ddaiar mor dalentog a chenedl y Cymry; ac er mwyn cadw ei hun yn Gymro dilwgr, ni ddysgodd erioed hanner dwsin o eiriau Seisoneg; ac y mae yn difrïo'r Seison yn ofnadwy; a phan eir at y Seison a'r Seisoneg mewn ymddyddan, ar ol lluched a tharanau Wil, ceir ei weled yn ymffurfio i'w agweddiad llon a naturiol wrth ac wedi adrodd y ddwy linell ganlynol:
'Seison iaith, cyfarthiaith cŵn,
P'le tynwn rhag plant annwn?'
'Dyna hi, dyna hi iddynt hwy a'u hiaith,' meddai Wil, gan wenu a dyfod i'w le, ac ymddangos fel Cristion arall. Ond bachgen go lew yw Wil, ac y mae yn drueni ei fod wedi ymddyrysu cymmaint er pan y mae wedi ymgymmeryd â barddoniaeth. Nid oedd neb wedi meddwl nac wedi dychymmygu dim y buasai'r brofedigaeth hon byth yn cyfarfod â Wil; ond mae yn debyg nas gall un dyn ddiengyd ar ei blaned; ac fel hyn