Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Wil Brydydd y Coed.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y bu ar Wil. Dygwyddodd i hanner Jack a hanner student ddyfod i bregethu i'r capel ar uchaf boreu Sul; a hwn, i'r dyben o egluro rhyw air neu eiriau yn ei destyn, er mwyn peri deall i'w wrandawyr, a grybwyllodd ei ystyr yng ngwaith y cynfeirdd a'r gogynfeirdd; soniodd am Taliesin, am Aneurin, am Llywarch Hen, ac am rywun naill ai Llywelyn neu Lewis Brydydd y Moch, ac a ddywedydd nad oedd na Homer, na Virgil, na Horace, na neb o'r hen feirdd Cenedlig, na neb beirdd ar y ddaiar, fu, sydd, ac a ddaw, ddim yn y byd at y beirdd Cymreig. Dywedodd fod yr awen ynddynt yn fwy poethlyd-fod eu meddyliau yn fwy dyrchafedig, yn fwy hedegog, yn gyflymach, ac yn fwy treiddgar nag unrhyw feirdd ereill. Cynghorai yr hanner Jack a'r hanner student hefyd ei wrandawyr i 'ffermwriaethu' barddoniaeth, ac nas gallent gael ond y peth nesaf i ddim o gysuron ac adeiladaeth yn Llyfr y Salmau a phrophwydoliaethau Esaiah, os nad oeddynt i raddau mwy neu lai dan ddylanwad yr awen. Rhoes yr hanner Jack a'r hanner student hefyd donc ar Dderwyddiaeth, a dywedodd mai Derwyddiaeth ydoedd crefydd Abraham, o blegid iddo blanu llwyn o goed yn Beerseba, a bod y Derwyddon byth ar ol hyny yn ffond o gyflawnu eu gwasanaeth crefyddol mewn coed. Dywedodd yr hanner Jack a'r hanner student lawer iawn hefyd am y fantais o feddwl a myfyrio mewn coed, a bod dynion o feddyliau mawrion a gwreiddiol yn hoff o rodio ac eistedd dan gangenau cysgodfawr coedydd. Dywedodd hefyd bod yr amser wedi dyfod i ddynion ieuainc roddi mwy o'u bryd ar lenyddiaeth, ar gyfansoddi, ac ar brydyddu, ac ar natur eglwys, er mwyn bod o ddefnyddioldeb mwy yn eu 'dydd a'u tymmor,' ac felly i 'lanw eu cylch;' ac wedi myned ym mlaen gyda'r annogaethau difrifol hyn am ychydig fynydau, cafwyd yr Amen.

Lled sychlyd oedd y bobl yn gwrando, ond Wil yn unig; ac wrth fyned o'r cwrdd, cadwai ar ol, a cherddai wrtho ei hun megys pe buasai mewn rhyw syn fyfyrdod. 'Beth sydd ar Wil, heddyw?' meddai un. 'A yw Wil ddim yn iach?' meddai'r llall. 'I ba beth y mae Wil yn edrych yn barhäus tua'r coed draw?' meddai'r trydydd. Ef allai fod Wil am fyned yn Abraham, neu yn Dderwydd, neu yn brydydd, neu yn bob un o'r tri,' meddai'r pedwerydd. Ond wrtho ei hun yr oedd Wil yn dyfod o'r cwrdd. Cerddai gan edrych tua'r ddaiar, a chyfodai flodeuyn llygad y dydd neu laswelltyn; ac wedi edrych dipyn arno, troai yn ddisymmwth at y coed, a sylwid ei fod yn cyfodi ei law yn fynych at ei ben, ac yn ei grafu.

Dygwyddodd fod cwrdd yr hanner Jack a'r hanner student ar ddydd Gwener, a chan ei bod yn ddydd marchnad dranoeth, aeth Wil i'r dref gyfagos; ac wedi cyrhaeddyd y dref, i mewn rap â Wil i siop y bookseller; ac wedi myned i mewn, gofynodd i'r bookseller os oedd ganddo Ramadeg Cymraeg ar werth. 'Oes,' ebai'r bookseller, mae genyf amryw: pa un ydych chwi yn ymofyn am dano?' 'Ni wn i ddim,' atebai Wil. un o honynt a recommendiech chwi i mi?' 'Nid yw o bwys i mi,' ddywedai'r bookseller, 'pa un a werthaf; ond Gramadeg Rowland y mae dynion dysgedig yn ymofyn am dano. Dyma'r gramadeg sydd yn Oxford a Cambridge; a'r gramadeg hwn sydd yn universities Germany hefyd.' 'Mi gymmeraf hwna,' ebai Wil, gan ei dderbyn o law y bookseller; ac wedi ei dderbyn, efe a'i hagorodd, ac a welodd fod Seisoneg ar ei ddail. 'Mae Seisoneg yn hwn,' ebai Wil; 'ac ni wn i fawr neu ddim Seisoneg.' 'O,' meddai'r bookseller, 'gwell i chwi gael copi o ddicsnari dwbwl Spurrell, ac ni fydd un drafferth i chwi lanw'r bwlch