Tudalen:Y Bibl Cyssegr-Lan (BFBS 1861).pdf/967

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

YR EFENGYL YN OL

SANT MATTHEW.

PENNOD I.

1 Achau Crist o Abraham i Joseph. 18 Ei genhedlu ef o'r Yspryd Glân, a'i eni o Fair forwyn, wedi ei dyweddio hi a Joseph. 19 Yr angel yn boddloni cam-dybus feddyliau Joseph, ac yn dehongli enwau Crist.

1 Lyfr cenhedliad Iesu Grist fab Da­fydd, fab Abraham.

2 Abraham a genhedlodd Isaac; ac Isaac a genhedlodd Jacob; a Jacob a genhedlodd Judas a'i frodyr;

3 A Judas a genhedlodd Phares a Zara o Thamar; a Phares a gen- hedlodd Esrom; ac Esrom a gen- hedlodd Aram;

4 Ac Aram a genhedlodd Amina dab; ac Aminadab a genhedlodd Naasson; a Naasson a genhedlodd Salmon;

5 A Salmon a genhedlodd Booz o Rachab; a Booz a genhedlodd Obed o Ruth; ac Obed a genhedlodd Jesse;

6 A Jesse a genhedlodd Dafydd frenhin; a Dafydd frenhin a genhedlodd Solomon o'r hon a fuasai wraig Urias;

7 A Solomon a genhedlodd Roboam; a Roboam a genhedlodd Abia; ac Abia a genhedlodd Asa;

8 Ac Asa a genhedlodd Josaphat; a Josaphat a genhedlodd Joram; a Joram a genhedlodd Ozias;

9 Ac Ozias a genhedlodd Joatham; a Joatham a genhedlodd Achaz; ac Achaz a genhedlodd Ezecias;

10 Ac Ezecias a genhedlodd Manasses; a Manasses a genhedlodd Amon; ac Amon a genhedlodd Josias;

11 A Josias a genhedlodd Jechonias a'i frodyr, ynghylch amser y symmudiad i Babilon:

12 Ac wedi y symmudiad i Babilon, Jechonias a genhedlodd Salathiel; a Salathiel a genhedlodd Zorobabel;

13 A Zorobabel a genhedlodd Abiud; ac Abïud a genhedlodd Eliacim; ac Eliacim a genhedlodd Azor;

14 Ac Azor a genhedlodd Sadoc; a Sadoc a genhedlodd Achim; ac Achim a genhedlodd Eliud

15 Ac Eliud a genhedlodd Eleazar; ac Eleazar a genhedlodd Matthan; a Matthan a genhedlodd Jacob;

16 A Jacob a genhedlodd Joseph, gwr Mair, o'r hon y ganed Iesu, yr hwn a elwir Crist.

17 Felly yr holl genhedlaethau o Abraham hyd Dafydd, sydd bedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o Dafydd hyd y symmudiad i Babilon, pedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o'r sym- mudiad i Babilon hyd Grist, pedair cenhedlaeth ar ddeg.

18 ¶ A genedigaeth yr Iesu Grist oedd fel hyn: Wedi dyweddio Mair ei fam ef â Joseph, cyn eu dyfod hwy ynghyd, hi a gafwyd yn feichiog o'r Yspryd. Glân.

19 A Joseph ei gwr hi, gan ei fod yn gyfiawn, ac heb chwennych ei gwneuthur hi yn siampl, a ewyllys- iodd ei rhoi hi ymaith yn ddirgel.

20 Ac efe yn meddwl y pethau hyn, wele, angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Joseph, mab Dafydd, nac ofna gymmeryd Mair dy wraig: oblegid yr hyn a genhedlwyd ynddi sydd o'r Yspryd Glân.

21 A hi a esgor ar fab, a thi a elwi ei enw ef IESU: oblegid efe a wared ei bobl oddi wrth eu pechodau.

22 (A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy y prophwyd, gan ddywedyd,

23 Wele, morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab; a hwy a alwant ei enw ef Emmanuel; yr hyn o'i gyfieithu yw, Duw gyd â ni.)

24 A Joseph, pan ddeffroes o gwsg, a wnaeth megis y gorchy-