Tudalen:Y Bibl Cyssegr-Lan (BFBS 1861).pdf/974

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe agorir i chwi:

8 Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a'r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i'r hwn sydd yn curo, yr agorir.

9 Neu a oes un dyn o honoch, yr hwn os gofyn ei fab iddo fara, a rydd iddo garreg?

10 Ac os gofyn efe bysgodyn, a ddyry efe sarph iddo?

11 Os chwychwi gan hynny, a chwi yn ddrwg, a fedrwch roddi rhoddion da i'ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd bethau da i'r rhai a ofynant iddo?

12 Am hynny pa bethau bynnag oll a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy: canys hyn yw y gyfraith a'r prophwydi.

13 ¶ Ewch i mewn trwy y porth cyfyng: canys ehang yw y porth, a llydan yw y ffordd, sydd yn arwain i ddistryw; a llawer yw y rhai sydd yn myned i mewn trwyddi:

14 Oblegid cyfyng yw y porth, a chul yw y ffordd, sydd yn arwain i'r bywyd; ac ychydig yw y rhai sydd yn ei chael hi.

15 Ymogelwch rhag gau-brophwydi, y rhai a ddeuant attoch yng ngwisgoedd defaid, ond oddi mewn bleiddiaid rheibus ydynt hwy.

16 Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. A gasgl rhai rawnwin oddi ar ddrain, neu ffigys oddi ar ysgall?

17 Felly pob pren da sydd yn dwyn ffrwythau da; ond y pren drwg sydd yn dwyn ffrwythau drwg.

18 Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren drwg ddwyn ffrwythau da.

19 Pob pren heb ddwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tan

20 O herwydd paham, wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt.

21 ¶ Nid pob un a'r sydd yn dywedyd wrthyf, Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i mewn i deyrnas nefoedd; ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.

22 Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnnw, Arglwydd, Ar- glwydd, oni phrophwydasom yn dy enw di? ac oni fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw di? ac oni wnaethom wyrthiau lawer yn dy enw di?

23 Ac yna yr addefaf wrthynt, Nis adnabûm chwi erioed: ewch ymaith oddi wrthyf, chwi weithredwyr anwiredd.

24 ¶ Gan hynny pwy bynnag sydd yn gwrandaw fy ngeiriau hyn, ac yn eu gwneuthur, mi a'i cyffelybaf ef i wr doeth, yr hwn a adeiladodd ei dy ar y graig:

25 A'r gwlaw a ddisgynodd, a'r llifeiriaint a ddaethant, a'r gwyntoedd a chwythasant, ac a ruthrasant ar y tŷ hwnnw; ac ni syrthiodd : oblegid sylfaenesid ef ar y graig.

26 A phob un a'r sydd yn gwrandaw fy ngeiriau hyn, ac heb eu gwneuthur, a gyffelybir i wr ffol, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y tywod:

27 A'r gwlaw a ddisgynodd, a'r llifddyfroedd a ddaethant, a'r gwyntoedd a chwythasant, ac a gurasant ar y tŷ hwnnw; ac efe a syrthiodd, a'i gwymp a fu fawr.

28 A bu, wedi i'r Iesu orphen y geiriau hyn, y torfeydd a synnasant wrth ei ddysgeidiaeth ef:

29 Canys yr oedd efe yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion.


PENNOD VIII. 2 Crist yn glanhâu y gwahan-glwyfus; 5 yn iachâu gwas y canwriad, 14 a mam gwraig Petr, 16 a llawer o rai chwyfus eraill: 19 yn dangos pa fodd y mae ei ddilyn ef: 23 yn gostegu y dymmestl ar y môr: 28 yn gyrru cythreuliaid allan o ddau gythreulig; 31 ac yn caniadu iddynt fyned i'r moch.

1 Ac wedi ei ddefod ef i waered ac o'r mynydd torfeydd lawer a'i canlyniasant ef

2 Ac wele, un gwahan-glwyfus a ddaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, os mynni, ti a elli fy nglanhâu i.

3 A'r Iesu a estynodd ei law, ac a gyffyrddodd âg ef, gan ddywedyd, Mynnaf, glanhâer di. Ac yn y fan ei wahan-glwyf ef a lanhâwyd.