Tudalen:Y Bibl Cyssegr-Lan (BFBS 1861).pdf/975

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

4 A dywedodd yr Iesu wrtho, Gwêl na ddywedych wrth neb; eithr dos, dangos dy hun i'r offeiriad, ac offrymma'r rhodd a orchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt.

5 ¶Ac wedi dyfod yr Iesu i mewn i Gapernaum, daeth ato ganwriad, gan ddeisyfu arno,

6 A dywedyd, Arglwydd, y mae fy ngwas yn gorwedd gartref yn glaf o'r parlys, ac mewn poen ddirfawr.

7 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Mi a ddeuaf, ac a'i hiachâf ef.

8 A'r canwriad a atebodd ac a ddywedodd, Arglwydd, nid ydwyf fi deilwng i ddyfod o honot dan fy nghronglwyd: eithr yn unig dywed y gair, a'm gwas a iachêir.

9 Canys dyn ydwyf finnau dan awdurdod, a chennyf filwyr danaf: a dywedaf wrth hwn, Cerdda, ac efe a â; ac wrth arall, Tyred, ac efe a ddaw; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac efe a'i gwna.

10 A'r Iesu pan glybu, a ryfeddodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn canlyn, Yn wir meddaf i chwi, Ni chefais gymaint ffydd, na ddo yn yr Israel.

11 Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y daw llawer o'r dwyrain a'r gorllewin, ac a eisteddant âg Abraham ac Isaac a Jacob yn nheyrnas nefoedd;

12 Ond plant y deyrnas a deflir i'r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd.

13 A dywedodd yr Iesu wrth y canwriad, Dos ymaith; ac megis y credaist, bydded i ti. A'i was a iachawyd yn yr awr honno.

14 ¶ A phan ddaeth yr Iesu i dŷ Petr, efe a welodd ei chwegr ef yn gorwedd, ac yn glaf o'r cryd.

15 Ac efe a gyffyrddodd â'i llaw hi; a'r cryd a'i gadawodd hi: a hi a gododd, ac a wasanaethodd arnynt.

16 ¶ Ac wedi ei hwyrhâu hi, hwy a ddygasant atto lawer o rai cythreulig: ac efe a fwriodd allan yr ysbrydion â'i air, ac a iachaodd yr holl gleifion;

17 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, Efe a gymmerodd ein gwendid ni, ac a ddug ein clefydau.

18 ¶ A'r Iesu, pan welodd dorfeydd lawer o'i amgylch, a orchymynnodd fyned drosodd i'r làn arall.

19 A rhyw ysgrifennydd a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athraw, mi a'th ganlynaf i ba le bynnag yr elych.

20 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae ffauau gan y llwynogod, a chan ehediaid y nefoedd nythod; ond gan Fab y dyn nid oes le i roddi ei ben i lawr.

21 Ac un arall o'i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gâd imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad.

22 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Canlyn fi; a gâd i'r meirw gladdu eu meirw.

23 Ac wedi iddo fyned i'r llong, ei ddisgyblion a'i canlynasant ef.

24 Ac wele, bu cynnwrf mawr yn y môr, hyd oni chuddiwyd y llong gan y tonnau: eithr efe oedd yn cysgu.

25 A'i ddisgyblion a ddaethant atto, ac a'i deffroasant, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw ni: darfu amdanom.

26 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn ofnus, O chwi o ychydig ffydd? Yna y cododd efe, ac y ceryddodd y gwyntoedd a'r môr; a bu dawelwch mawr.

27 A'r dynion a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa ryw un yw hwn, gan fod y gwyntoedd hefyd a'r môr yn ufuddhau iddo!

28 Ac wedi ei ddyfod ef i'r làn arall, i wlad y Gergesiaid, dau ddieflig a gyfarfuant âg ef, y rhai a ddeuent o'r beddau, yn dra ffyrnig, fel na allai neb fyned y ffordd honno.

29 Ac wele, hwy a lefasant, gan ddywedyd, Iesu, Fab Duw, beth sydd i ni a wnelom â thi? a ddaethost ti yma i'n poeni ni cyn yr amser?

30 Ac yr oedd ymhell oddi wrthynt genfaint o foch lawer, yn pori.

31 A'r cythreuliaid a ddeisyfasant arno, gan ddywedyd, Os bwri ni allan, caniatâ i ni fyned ymaith i'r genfaint foch.

32 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch. A hwy wedi myned allan, a aethant i'r genfaint foch: ac wele, yr holl genfaint foch a ruthrodd