Tudalen:Y Bibl Cyssegr-Lan (BFBS 1861).pdf/976

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dros y dibyn i'r môr, ac a fuant feirw yn y dyfroedd.

33 A'r meichiaid a ffoesant: ac wedi eu dyfod hwy i'r ddinas, hwy a fynegasant bob peth; a pha beth a ddarfuasai i'r rhai dieflig.

34 Ac wele, yr holl ddinas a ddaeth allan i gyfarfod â'r Iesu: a phan ei gwelsant, attolygasant iddo ymadael o'u cyffiniau hwynt.

PENNOD IX.

2 Crist yn iachâu un claf o'r parlys, 9 yn galw Matthew o'r dollfa, 10 yn bwytta gyd â phublicanod a phechaduriaid, 14 yn amddiffyn ei ddisgyblion am nad ymprydient, 20 yn iachâu y diferlif gwaed, 23 yn cyfodi merch Jairus o farw, 27 yn rhoddi eu golwg i ddau ddyn dall, iachâu mudan cythreulig, 36 ac yn toturio wrth y dyrfa.

1 Ac efe a aeth i mewn i'r llong, ac a aeth trosodd, ac a ddaeth i'w ddinas ei hun.

2 Ac wele, hwy a ddygasant ato wr claf o'r parlys, yn gorwedd mewn gwely: a'r Iesu yn gweled eu ffydd hwy, a ddywedodd wrth y claf o'r parlys, Ha fab, cymmer gysur; maddeuwyd i ti dy bechodau.

3 Ac wele, rhai o'r ysgrifenyddion a ddywedasant ynddynt eu hunain, Y mae hwn yn cablu.

4 A phan welodd yr Iesu eu meddyliau, efe a ddywedodd, Paham y meddyliwch ddrwg yn eich calonnau?

5 Canys pa un hawsaf ai dywedyd, Maddeuwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a rhodia?

6 Eithr fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y dyn ar y ddaear i faddau pechodau, (yna y dywedodd efe wrth y claf o'r parlys,) Cyfod, cymmer dy wely i fyny, a dos i'th dŷ.

7 Ac efe a gyfododd, ac a aeth ymaith i'w dŷ ei hun.

8 A'r torfeydd pan welsant, rhyfeddu a wnaethant, a gogoneddu Duw, yr hwn a roesai gyfryw awdurdod i ddynion.

9 Ac fel yr oedd yr Iesu yn myned oddi yno, efe a ganfu wr yn eistedd wrth y dollfa, a elwid Mathew, ac a ddywedodd wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gyfododd, ac a'i canlynodd ef.

10 A bu, ac efe yn eistedd i fwytta yn y tŷ, wele hefyd, publicanod lawer a phechaduriaid a ddaethant ac a eisteddasant gyda'r Iesu a'i ddisgyblion.

11 A phan welodd y Phariseaid, hwy a ddywedasant wrth ei ddisgyblion ef, Paham y bwytty eich Athro chwi gyda'r publicanod a'r pechaduriaid?

12 A phan glybu'r Iesu, efe a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid i'r rhai iach wrth feddyg, ond i'r rhai cleifion.

13 Ond ewch, a dysgwch pa beth yw hyn, Trugaredd yr ydwyf yn ei ewyllysio, ac nid aberth: canys ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch.

14 Yna y daeth disgyblion Ioan ato, gan ddywedyd, Paham yr ydym ni a'r Phariseaid yn ymprydio yn fynych, ond dy ddisgyblion di nid ydynt yn ymprydio?

15 A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, A all plant yr ystafell brïodas alaru tra fo'r prïod-fabgyda hwynt? ond y dyddiau a ddaw, pan ddyger y prïod-fab oddi arnynt, ac yna yr ymprydiant.

16 Hefyd, ni ddyd neb lain o frethyn newydd at hen ddilledyn: canys y cyflawniad a dynn oddi wrth y dilledyn, a'r rhwyg a wneir yn waeth.

17 Ac ni ddodant win newydd mewn costrelau hen: os amgen, y costrelau a dyr, a'r gwin a red allan, a'r costrelau a gollir: eithr gwin newydd a ddodant mewn costrelau newyddion, ac felly y cedwir y ddau.

18 Tra oedd efe yn dywedyd hyn wrthynt, wele, daeth rhyw bennaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Bu farw fy merch yr awr hon; eithr tyred, a gosod dy law arni, a byw fydd hi.

19 A'r Iesu a gyfododd, ac a'i canlynodd ef, a'i ddisgyblion.

20 (Ac wele, gwraig y buasai gwaedlif arni ddeuddeng mlynedd, a ddaeth o'r tu cefn iddo, ac a gyffyrddodd âg ymyl ei wisg ef:

21 Canys hi a ddywedasai ynddi ei hun, Os câf yn unig gyffwrdd â'i wisg ef, iach fyddaf.

22 Yna yr Iesu a drodd; a phan ei gwelodd hi, efe a ddywedodd, Ha ferch, bydd gysurus; dy ffydd a'th