Y BROBLEM DDWYIEITHOG YN YR
YSGOL UWCHRADD YNG NGHYMRU
I
Cefndir yr Ysgol Uwchradd yng Nghymru
YN Y CYFNOD RHWNG PASIO DEDDF ADDYSG GANOLRADD CYMRU (1889) a chyhoeddi Adroddiad y Pwyllgor Adrannol ar "Y Gymraeg mewn Addysg a Bywyd" (1929) cafodd safe'r Gymraeg yn Ysgolion Uwchradd Cymru fwy o sylw. Yn Adroddiad y Pwyllgor caed nid yn unig awgrymiadau gwerthfawr, ar sut i wella safle'r Gymraeg, ond hefyd amlinelliad o bolisi ar gyfer pob math o ysgol a sefydliad addysgol. Yn y cyfamser, bu peth cynnydd, ond bu'r cynnydd hwnnw'n arafach na'r hyn a ddisgwylid gan lawer, ac ni fu'n gyson dros holl faes y datblygiad, fel y bwriadwyd gan Adroddiad y Pwyllgor Adrannol. Bu cryn ysgrifennu ar y pwnc, a gwnaeth yr Adran Gymreig hithau gyfraniad cyson. Ei chyhoeddiad diweddaraf yw Memorandwm yn ymdrin â gwaith ysgolion cynradd. Cafodd dderbyniad da, ac fe'i hailargraffwyd oherwydd y galw parhaol sydd amdano. Y mae'r ehangu ar Addysg Uwchradd sydd wedi cychwyn eisoes, yn pwysleisio'r angen am drafod y broblem yn yr ysgol uwchradd, ac i gwrdd â'r angen hwnnw y lluniwyd y pamffled hwn.
Gwelir datganiad cyffredinol o'r broblem yn yr ysgol uwchradd ym Mhennod XIV o Adroddiad Norwood. Dyma a ddywed:
(i) Y mae Cymru'n wlad ag iddi ei hiaith a'i hanes a'i diwylliant ei hun.
(ii) Yng Nghymru wledig, sy'n cynnwys tri chwarter o arwynebedd y wlad, y mae'r mwyafrif o'r trigolion yn dal at y Gymraeg fel iaith y cartref. Yn ardaloedd diwydiannol Deheudir Cymru, Saesneg yw iaith y mwyafrif, fel y mae hefyd i raddau mewn ambell arfordir, ac ar y gororau, er bod y lleiafrif yn sylweddol.
(iii) Y mae dros fil o flynyddoedd o hanes i lenyddiaeth a sefydliadau diwylliannol Cymru. Y mae eu bywyd a'u grym yn dal hyd heddiw. Ceir llawer o ddarllen ar ryddiaith a barddoniaeth ysgrifenwyr Cymraeg modern: pery cylchgronau wythnosol a misol i ddal gafael ar fywyd y bobl : ffynna'r ddrama Gymraeg. Llwyddwyd i gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol—sefydliad sydd yn ymwneud â Llenyddiaeth a Cherddoriaeth, â'r Ddrama, â'r Crefftau, ac â Chelfyddyd,—er ar raddfa dipyn yn llai, drwy holl flynyddoedd anodd y Rhyfel, ag eithrio un.