(iv) Y mae Cymru ynghlwm wrth Loegr, o safbwynt daearyddiaeth, economeg a gwleidyddiaeth. Cafodd bechgyn a merched Cymru swyddi dros Glawdd Offa, a'r Saeson hwythau swyddi yng Nghymru. Gellir dweud felly fod i'r ysgol ramadeg yng Nghymru ddwy ddyletswydd arbennig, yn ogystal â'r dyletswyddau hynny sy'n gyffredin iddi hi a Lloegr.
(a) Rhaid iddi ofalu am iaith, llenyddiaeth, hanes a diwylliant Cymru. Yn fwyaf arbennig, rhaid rhoi digon o gyfle i'r plentyn sy'n siarad Cymraeg i astudio ei iaith ei hun a'i İlenyddiaeth, a rhoi cyfle i'r plentyn di-Gymraeg i ehnill gwybodaeth o'r iaith. Ymhellach cyn iddynt ymadael â'r ysgol dylai'r ddau wybod am hanes a thraddodiadau Cymru. (b) Ar yr un pryd, rhaid sicrhau bod gan y plentyn cyn ymadael â'r ysgol, wybodaeth sicr o'r Saesneg. Rhaid iddo fedru siarad ac ysgrifennu Saesneg yn gywir ac yn ddeallus, a chael pleser a budd wrth ddarllen llyfrau Saesneg. Rhaid hefyd ei gael i sylweddoli, er mai Cymro yw yn gyntaf ac yn bennaf, ei fod hefyd mewn ystyr ehangach yn aelod o'r gymdeithas, yn wŷr ac yn wragedd, sy'n ffurfio poblogaeth yr ynys hon, ac, mewn ystyr ehangach fyth, yn aelod o gymdeithas y cenhedloedd a lunia'r Ymerodraeth Brydeinig.
Dengys y datganiad uchod yn glir beth yw dyletswydd yr ysgol uwchradd yng Nghymru. Yn anad dim byd arall, dylai wneud i'r plant sylweddoli eu dinasyddiaeth Gymreig, a'r traddodiad a'r diwylliant sy'n eiddo iddynt, a rhoi iddynt wybodaeth am y wlad trigant ynddi ac am fywyd a gwaith ei phobl. Mae'n amlwg y dylent hefyd sylweddoli breintiau a dyletswyddau eu dinasyddiaeth Brydeinig a'u cyfrifoldeb ehangach: eithr bydd eu hymateb i'r problemau hyn yn fwy byw, a'u cyfraniad i ddiwylliant ehangach yn fwy gwerthfawr, os bydd ganddynt sail gadarn yn nhraddodiadau eu gwlad eu hunain.
{{c|A. Nodweddion Arbennigy Diwylliant Cymreig
Bu cymaint o siarad ac ysgrifennu ar y diwylliant Cymreig yn ddiweddar nes bod perygl mawr i'r geiriau golli eu gwir ystyr. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn, defnyddiwyd y gair" diwylliant gan gymaint o ysgrifenwyr mewn cynifer o ystyron fel mai buddiol yw diffinio ar y dechrau beth yn gymwys a olyga'r gair yn y Memorandwm hwn. Gellir diffinio diwylliant unrhyw genedl fel ei ffordd hi o fyw. Yn ddiamau, gellir sôn am y fath beth â diwylliant Ewropeaidd, gan fod elfennau yn niwylliannau holl bobloedd Ewrob sy'n gyffredin iddynt i gyd. Y mae cenhedloedd Ewrob wedi byw yn agos i'w gilydd am ddigon o amser i fenthyca credoau, moesau, arferion, ac leithoedd ei gilydd, ac felly i ddatblygu rhyw fath o synnwyr Ewropeaidd. Ond y mae pob gwlad yn datguddio yn ei chredoau a'i moesau, ei defodau a'i harferion a'i llenyddiaeth, elfennau sy'n arbennig iddi hi ei hun. Trwy ddatblygu'r rhai hyn, trwy greu amodau sy'n rhoi cyfle i ddawn arbennig y genedl flaguro—dyma fel y gall pob gwlad wneud ei chyfraniad ei hun i fywyd a llenyddiaeth. Y mae hyn