Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Broblem Ddwyieithog yn Ysgolion Uwchradd yng Nghymru.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn wir am bob agwedd ar weithgaredd dyn, am athroniaeth a gwleidyddiaeth, am wyddoniaeth, am lenyddiaeth a'r ddrama, am gelfyddyd a cherddoriaeth: pan soniwn am athroniaeth, neu feirniadaeth ddiwedd—ar, golygwn ryw synthesis y cyfrannodd gwŷr a gwragedd o wahanol wledydd yn helaeth ato a gwaith pob un ohonynt, ar wahan, yn dwyn ôl diwylliant brodorol yr awdur.

Wrth sôn am Ddiwylliant Cymreig, golygir felly yr elfennau hynny ym mywyd a gwaith y Cymry sy'n nodweddiadol ohonynt, ac sy'n eu gwahaniaethu oddi wrth grwpiau cenedlaethol eraill. Gellir gweld yr elfennau hyn yn aml ar eu pennau eu hunain, neu wedi'u gweu yn batrymau cymhleth â rhai eraill sy'n gyffredin iddynt hwy ac i'r Saeson a chenhedloedd Ewropeaidd eraill: neu, hwyrach, â rhai sy'n gyffredin i gylch ehangach. O'r elfennau hyn, yr un sydd fwyaf nodweddiadol o'r rhan fwyaf o'r cenhedloedd yw eu hiaith. Y mae hyn yn wir am Gymru yn arbennig; wrth fynd ati i drafod addysg yng Nghymru " medd Adroddiad Norwood, " rhaid ystyried yn gyntaf gwestiwn cadw'r iaith, gan na fyddai yng Nghymru, o leiaf, fawr ystyr i ddiogelu'r diwylliant cenedlaethol, heb fod hynny'n golygu, yn anad dim, gadw'r iaith."

Felly, mae'r ddadl dros wneud diwylliant Cymru yn gefndir i gynllun cyffredinol addysg yn yr ysgol uwchradd yng Nghymru, yn ddigon amlwg. Nid oes unrhyw ffordd arall i'r plentyn dyfu'n ddinesydd Cymreig cyflawn, a chyflwyno'i gyfraniad ei hun i ddiwylliant a dinasyddiaeth Prydain, Ewrob, ac wedi hynny, y byd. Ni sylweddolir yn ddigon trwyadl yn ysgolion Cymru beth yw cyfraniad Cymru eisoes i lên Ewrob, ac nid oes unrhyw reswm paham na ddylai cyfraniadau gwledydd bychain barhau i fod o wasanaeth i'r byd modern yn ei ymgais i sefydlu ffurfiau cymdeithasol newydd. Bu Cymry fel Robert Owen, Henry Richard a'r Arglwydd Davies yn arweinwyr gwrol yn y symudiadau pwysig i geisio sefydlu mudiad cydwladol i gadw heddwch y byd.

Dyma'r prif reswm, felly, dros gysylltu'r plentyn Cymraeg â diwylliant Cymru; heb y fath brofiad, y mae heb wreiddiau. Amddifad fydd o faen prawf gwerthfawr i brofi dilysrwydd profiadau newydd mewn bywyd a llên, ac o'r dechneg a'i galluoga i ddeall patrwm amrywiol bywyd. Y mae'r rheswm, felly, yn un seicolegol gywir, ac o safbwynt cyfrifoldeb addysgol, y mae'n hanfodol. Y mae rhesymau eraill sydd yr un mor rymus er efallai yn llai amlwg. Y mae'r diwylliant Cymreig yn werth ei gadw er ei fwyn ei hun; y mae cynhyrchion beirdd ac ysgrifenwyr rhyddiaith Cymru, ei dramodwyr a'i phregethwyr enwog, yn waith y gall cenedl fach fod yn wir falch ohono. Dylai ysgol wneud i'r plant ymfalchio'n urddasol yng ngorchestion diwylliannol eu pobl eu hunain.[1]

Defnyddiwyd y term "cadw'r diwylliant Cymreig," ac y mae perygl camddeall y gair "cadw "o'i ddefnyddio yn y cysylltiad hwn.

  1. "Y mae ysgol yn dibynnu llawer mwy ar awyrgylch y diwylliant cenedlaethol y'i trwythir hi ynddo, nag ar yr awyrgylch pedagogaidd hwnnw sydd y tu mewn iddi."
    ORTEGA Y GASSET. Mission of the University, p. 38.