Y mae'n bosibl dod i ystyried y diwylliant Cymreig fel rhywbeth statig, rhywbeth i edrych arno, ac i siarad amdano, a'i edmygu fel crair mewn Amgueddfa, neu fel goroesiad anthropologaidd hynod ar gyrrau gorllewinol y wlad hon : camgymeriad o'r mwyaf fyddai tybio felly. Nid yw diwylliant cenedlaethol yn ddim, onid yw'n fyw. Etifeddwn ein traddodiadau i chwanegu atynt ac i'w trosglwyddo i'n plant. Ni all na ddêl newid dros ein hiaith a'n defodau, ein dulliau a'n harferion, mewn gair, ein ffordd o fyw; rhaid iddynt ymgyfaddasu fel bo amgylchiadau yn newid, ac adnewyddu eu nerth drwy gyfathrach â'r byd, os ydynt am fyw o gwbl. Sylweddolir hyn gan blentyn sydd â'i wreiddiau yn ddwfn yn niwylliant a thraddodiad ei wlad ei hun: fe ŵyr mai po fwyaf yr ymddangosant fel pe'n newid, mwyaf oll yr arhosant yr un.
B. Diwylliant a'r Ysgolion
Y mae llawer o elfennau amrywiol yn niwylliant cenedl. Y rhai pwysicaf ydyw ei Hiaith a'i Llenyddiaeth, ei Hanes a'i Daearyddiaeth, ei Chrefydd, ei Llên Gwerin, ei Cherddoriaeth, a'r arddangosiadau allanol hynny a gynhwysir yn y term Diwylliant Materol. Er bod dosbarthiad fel hwn yn gyfleus i lawer pwrpas, ac yn cyfleu'r syniad bod yr elfennau hyn ar y lefelau academaidd uchaf yn ffurfio gwahanol feysydd astudiaeth, nid oes ffin bendant yn eu gwahaniaethu hyd yn oed ar y lefelau hynny. Unoliaeth organig yw diwylliant, ac agweddau arno ydyw'r elfennau a nodwyd rhaid felly gynnwys yr holl agweddau hyn, os am ddarlun cyflawn ohono, oherwydd bydd gadael rhai ohonynt allan yn sicr o anffurfio tipyn ar y darlun. Y camddarlun hwn o Gymru fel gwlad y gerdd a'r gân, yw'r un a roddir yn aml i oleuo'r dieithryn. Dyma'r darlun a geir mewn ambell nofel a drama a ffilm ddiweddar: y mae'n gam, gan mai darn o'r darlun yn unig yw.
Dylid sylfaenu maes llafur yr ysgol ar gymaint ag sy'n bosibl o'r elfennau hyn. Yn hyn o beth, y maent, bob un, yr un mor bwysig, ond pan geisir cymharu diwylliant Cymru â diwylliant Lloegr neu unrhyw un o genhedloedd mwyaf Ewrob, gwelir bod gan yr iaith Gymraeg le yn niwylliant Cymru sydd ar ei ben ei hun, o'i gymharu â safle'r Saesneg, neu'r Ffrangeg, neu'r Almaeneg yn niwylliannau eu gwledydd hwy. Pobl yn bugeilio hyd yr ucheldiroedd oedd y Cymry, heb feddu ar gyfoeth y byd hwn, ac anaml y cyraeddasant safon uchel ym maes pensaerniaeth neu arluniaeth, neu gerddoriaeth offerynnol, oherwydd rhaid wrth noddwyr sy'n ddigon cyfoethog i noddi a chynnal yr artist, neu i brynu ei waith. Yng Nghymru, bu i ddiwylliant ei fynegi ei hun yn arbennig drwy'r celfyddydau hynny na ddibynnant ar bwrs neb—celfyddydau iaith, ar lafar neu ar gân, a thrwy'r crefftau gwledig. Dengys hyn bwysigrwydd arbennig yr iaith ei hun: hyhi ydyw cyfrwng popeth a fu ac y sydd fwyaf aruchel yn niwylliant Cymru. Ei beirdd a'i hysgrifenwyr rhyddiaith, ei hareithwyr ar lwyfan ac mewn pulpud, ei dramodwyr, ei chantorion: yn eu gwaith hwy y gwelir gogoniant y diwylliant Cymreig, ac os derfydd am yr iaith, derfydd amdano yntau hefyd. Nid oes gobaith i neb dreiddio i adnabyddiaeth lwyr o