Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Broblem Ddwyieithog yn Ysgolion Uwchradd yng Nghymru.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

unrhyw ddiwylliant cenedlaethol heb wybod iaith y genedl. Y mae hyn yn arbennig wir am Gymru. Mae'n wir y gellir gwneud llawer drwy gymorth cyfieithiadau, gan gofio bob amser fod llinell derfyn i bosibliadau cyfieithu. Er enghraifft ni ellir cyfleu nodweddion arbennig y Canu Caeth yn dda drwy gyfieithu.

Ni ellir, felly, roddi gormod o bwyslais ar le'r iaith Gymraeg ym maes llafur yr ysgol, a dyna'r pwnc a drafodir yn y yn y bennod nesaf.

2
Astudio Iaith

NID YDYW CYMRU OND UN WLAD YMHLITH AMRYW O WLEDYDD dwyieithog. Y mae'r term "dwyieithedd" mor eang ei ystyr y dyddiau hyn fel y mae'n rhaid diffinio mesur y "ddwyieithedd" mewn gwlad, cyn mynd ati i drafod ei heffaith ar addysg. Ceir braslun cyffredinol o'r sefyllfa yn y paragraff o Adroddiad Norwood a ddyfynnwyd eisoes. Rhydd yr ystadegau isod, a gymerwyd o gyfrif 1931, ddisgrifiad o un agwedd o'r sefyllfa, sef ei maint:

Cyfanrif y Boblogaeth (Tair oed a throsodd) Cymraeg yn unig Cymraeg a Saesneg Saesneg yn Unig
2,472,378 97,932 811,329 1,563,117

Nid ydyw dwyieithedd yn broblem sy'n arbennig i Gymru; y mae'r un mor ddyrys mewn gwledydd fel Belg a Deheudir Affrig. Ond y mae'r amgylchiadau mewn gwledydd dwyieithog yn amrywio gryn lawer, ac er mor fuddiol yw ystyried sut y ceisiodd gwledydd eraill ddatrys y broblem hon, nid yw'n dilyn y gellir cymhwyso'u casgliadau fel rhai addas i Gymru. Gellir dweud mai llywodraeth ganolog a fu'n penderfynu'r mater mewn gwledydd eraill, a bod eu penderfyniadau wedi eu cymhwyso'n gyffredinol drwy'r ysgolion, ac weithiau yn y sefydliadau addysgol uwchradd. Nid dyma'r sefyllfa yng Nghymru. Yr ydym yn parhau i chwilio am ateb cyflawn i'n problem ni, ond nid oes unrhyw uchel awdurdod i'w orfodi arnom. Y mae natur gynhenid gweinyddiad addysg yn y wlad hon yn gofyn am gydweithrediad rhwng y llywodraeth ganolog a'r llywodraeth leol, rhwng gweinyddwyr ac athrawon, a rhwng cynrychiolwyr cyhoeddus a rhieni.