Y mae i'r gair "dwyieithog" amryw o ystyron. Yng Nghymru daeth y gair bron i olygu un sy'n siarad Cymraeg, oherwydd fel rheol, gellir cymryd yn ganiataol ei fod yn medru'r Saesneg hefyd. Pan sonnir am rai rhanbarthau ac ysgolion " dwyieithog," golygir rhanbarthau neu ysgolion lle y siaredir Cymraeg yn ogystal â Saesneg gan y mwyafrif o'r plant. O ganlyniad, problem ddwyieithog Cymru, fel problem gwledydd eraill, ydyw cymodi hawliau iaith rymusach ag un llai grymus. Y mae hawliau'r gyntaf yn amlwg. Iaith y wlad y mae Cymru ynghlwm wrthi drwy gysylltiadau economeg, daearyddiaeth a gwleidyddiaeth yw hi; iaith a ddefnyddir gan fwy a mwy o bobl mewn busnes a thrafnidiaeth dros ran helaeth o'r byd: iaith un o lenyddiaethau mwyaf y byd. Geilw hawliau'r Gymraeg am bwyslais gwahanol, eithr nid ydynt yn llai pendant: hi yw iaith frodorol Cymru: hyhi hyd yn hyn yw mamiaith tua dwy ran o bump o boblogaeth Cymru: y mae'n iaith a chanddi draddodiad a llenyddiaeth a flodeuodd am fil o flynyddoedd a mwy.
A. Safle'r Gymraeg yn Ysgolion Uwchradd Cymru
O ystyried ystadegau sy'n dangos safle bresennol y Gymraeg yn Ysgolion Uwchradd Cymru ynghyd â ffeithiau eraill daw rhai casgliadau cyffredinol yn amlwg wrth astudio safle'r iaith yn yr ysgolion:
(a) Nid oes gan ysgolion gramadeg Cymru fel cyfangorff ddim polisi, hyd un oed o'r math mwyaf cyffredinol, y gellir trwyddo ddiffinio lle a swyddogaeth yr iaith Gymraeg yn yr ysgol. Yn hyn o beth, y mae'n debyg bod Addysg Uwchradd Cymru yn hollol ar ei phen ei hun.
(b) Allan o'r 52,412 o blant yn yr ysgolion gramadeg yn Ebrill 1946, nid oedd ond 21,515 (ychydig dros 40%) a astudiai'r Gymraeg fel pwnc. O'r ieithoedd eraill, heblaw Saesneg, a astudid yn y Chweched Dosbarth, yr oedd Ffrangeg, Almaeneg, a Lladin, yn y drefn hon, o flaen Cymraeg. O blith yr 8,198 o blant a geisiodd am Dystysgrif Ysgol Bwrdd Canol Cymru yn 1946, cymerodd 34% Gymraeg yn yr arholiad.
(c) Yn Ebrill, 1946, mewn 10 ysgol yn unig, allan o 151, y ceid y plant i gyd yn cymryd y Gymraeg i fyny at y Dystysgrif Ysgol. Yn y lleill, yr oedd y sefyllfa'n amrywio. Mewn rhai ysgolion ni chymerir Cymraeg o gwbl. Mewn rhai eraill gellir dewis nifer o bynciau yn lle'r Gymraeg (naill ai o'r cychwyn, neu yn yr ail flwyddyn neu'r drydedd) fel nad yw'n bosibl i'r plentyn gymryd Cymraeg i fyny at safon y Dystysgrif Ysgol ond ar draul colli rhyw bwnc arall (Ffrangeg fel arfer) sydd o ddiddordeb iddo, neu'n debyg o fod yn angenrheidiol i'w alwedigaeth yn y dyfodol. Y mae'r ffaith bod y polisi hwn yn nodweddiadol o drefniant llawer ysgol yn yr ardaloedd Cymraeg yn gwneud sefyllfa ddrwg yn waeth fyth. Amod cyntaf polisi iaith iach yn yr ysgol uwchradd ydyw bod unrhyw blentyn sy'n awyddus am hynny yn medru cymryd Cymraeg i fyny at unrhyw bwynt yn y maes llafur,