heb gael ei rwystro gan gymhlethdod unrhyw drefniant sy'n ei orfodi i ddewis rhwng Cymraeg ac unrhyw bwnc arall a fo'n ddiddorol neu'n angenrheidiol. Mae trefniant ystwyth felly mewn llawer ysgol yn debyg o olygu chwanegu at nifer y staff.
(d) Gresyn bod cynifer o blant sy'n siarad Cymraeg ac yn cymryd Cymraeg yn arholiad y Dystysgrif Ysgol, yn cael eu paratoi o hyd ar gyfer y papurau ail-iaith, a gynlluniwyd ar gyfer plant â'u mamiaith yn Saesneg. Ni all yr effaith a gaiff hyn ar y plant eu hunain lai na bod yn niweidiol; ar wahan i'r ffaith eu bod yn colli'r ddisgyblaeth a'r gwerth diwylliannol a ddylai gydfynd ag astudio'r famiaith o ddifrif yn yr ysgol uwchradd, y mae'r amser sy'n angenrheidiol iddynt baratoi ar gyfer yr arholiad mor gymharol fach, nes bod tuedd ynddynt i edrych ar y Gymraeg fel" dewisiad rhwydd," ac oherwydd hynny, y mae'r iaith yn colli ei hurddas a'i dylanwad.
(e) Cyfeiria'r sylwadau hyn yn unig at safle anfoddhaol y Gymraeg fel pwnc yn addysg yr ysgol. Eithr pan roddir ystyriaeth i le'r Gymraeg fel cyfrwng addysg, y mae'r sefyllfa'n llai boddhaol fyth. Nid oes ond ychydig o ysgolion uwchradd yng Nghymru sy'n defnyddio'r Gymraeg hyd yn oed i raddau helaeth fel cyfrwng addysg. Yn yr ardaloedd Cymraeg, rhaid defnyddio'r Gymraeg, fwy neu lai, yn y dosbarthiadau isaf, yn unig am fad gafael y plant ar y Saesneg heb gyrraedd y safon lle gellir defnyddio'r iaith yn rhwydd fel cyfrwng hyfforddiant. Y nôd, er hynny, ydyw cyrraedd y safon hon cyn gynted ag y gellir, ac arwahan i'r ysgolion hynny sy'n defnyddio'r Gymraeg i ddysgu Hanes Cymru, Addysg Grefyddol a phynciau tebyg, Saesneg yn unig ydyw'r cyfrwng erbyn i'r plentyn gyrraedd ei drydedd flwyddyn yn yr ysgol. Erbyn hynny, nid oes i'w famiaith le o gwbl yn y maes llafur, ond fel un pwnc ymhlith llawer eraill, ac ar ben hynny, gall mai pwnc dewis yn unig ydyw.
Y mae rhesymau amlwg paham na ellir defnyddio'r Gymraeg fel yr unig gyfrwng heddiw yn yr ysgolion uwchradd, ac nid oes eisiau eu hailadrodd yma. Ond nid ydyw'n dilyn, serch hynny, mai'r Saesneg a ddylai fod yr unig gyfrwng. Rhoi'r plentyn ar ben y ffordd i ddefnyddio'r ddwy iaith a ddylai fod y polisi cyffredinol mewn gwlad ddwyieithog, ac y mae cyflwr y Gymraeg a'i rhagolwg heddiw yn adlewyrchu'n amlwg ddiffyg polisi felly. Nid unrhyw wendid cynhenid yn yr iaith ei hun sy'n peri bod y Gymraeg yn analluog i ymdrin yn llawn â gwareiddiad modern yn ei holl agweddau, ond i raddau helaeth, y faith na cheisiodd y sefydliadau addysgol uwchradd, yr Ysgolion Uwchradd, y Colegau Hyfforddi, a'r Brifysgol, ddefnyddio'r Gymraeg o ddifrif fel cyfrwng hyfforddi. Petai'r ewyllys yn bod, byddai'r fath anawsterau â diffyg llyfrau a geirfa dechnegol wedi eu symud ers tro, oherwydd o fewn y pum mlynedd ar hugain diwethaf, trechwyd yr un anawsterau yn union ym Melg a Phalesteina, a heddiw, defnyddir