Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Broblem Ddwyieithog yn Ysgolion Uwchradd yng Nghymru.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fflemiseg yn yr ardaloedd hynny ym Melg lle siaredir hi, a Hebraeg ym Mhalesteina, fel cyfryngau hyfforddi drwy holl faes addysg, o'r Ysgol Gynradd i fyny, gan gynnwys y Brifysgol. Y mae'r ysgrifen ar y mur yn amlwg ddigon: naill ai mae'n rhaid i'r iaith Gymraeg fod yn barod i gyfarfod â gofynion y byd modern, neu fe dderfydd o'r tir.

Seiliwyd y sylwadau hyn ar y ffeithiau fel y maent, ac y maent yn gyson â'r egwyddorion addysgol sydd wrth wraidd dysgu iaith o dan amodau diweddar. Byddai'r egwyddorion hyn yn briodol mewn unrhyw wlad ddwyieithog, ac nid ydynt yn llai priodol i Gymru. Rhaid inni yn awr ystyried eu harwyddocad ynglŷn â chadw a throsglwyddo iaith a diwylliant Cymru yn ein hysgolion uwchradd.

Bydd yr amgylchiadau yn y gwahanol fathau o ysgolion uwchradd yn y dyfodol yn amrywio'n fawr, a bydd eu meysydd llafur yn amrywio yn yr un modd. Bydd rhai ysgolion yn parhau i baratoi y rhan fwyaf o'u plant, onid pawb ohonynt, ar gyfer arholiadau cyhoeddus fel o'r blaen: bydd gan y lleill, a hwythau'n rhydd oddiwrth ofynion allanol felly, gyfle i fentro i fyd arbrawf.

Yn yr ysgol uwchradd fodern yn yr ardaloedd Cymraeg a'r ardaloedd dwyieithog, ni ddylai fod anhawster i bob plentyn astudio'r Gymraeg drwy gydol ei arhosiad yn yr ysgol, naill ai fel iaith gyntaf neu fel ail iaith. Yn y rhanbarthau Seisnig o Gymru, nid oes un rheswm pam na ddylai plentyn o gartref di-Gymraeg, ar ddiwedd ei yrfa yn yr ysgol ddeall cryn dipyn o Gymraeg llafar, a chael mwynhad wrth ddarllen a deall llyfrau Cymraeg syml, a chylchgronau Cymraeg, a siarad Cymraeg o fewn terfynau cyfyng. Am beth amser, hwyrach mai ar ddeall Cymraeg llafar a Chymraeg llyfr, yn hytrach nag ar siarad ac ysgrifennu'r Gymraeg y dylai'r pwyslais fod. Trwy hyn, gellir rhoi yn llaw'r plentyn foddion i gadw cysylltiad â'r iaith ar lefel oedolion, tra bydd talu gormod o sylw i siarad yn cadw cynhysgaeth gyffredinol y plentyn ar lefel rhy isel i fod o ddefnydd iddo ar ôl gadael ysgol.

Yn yr ysgolion gramadeg cwyd problem wahanol gan fod rhaid ystyried y Gymraeg nid yn unig yn ei pherthynas â'r Saesneg ond hefyd yn ei pherthynas ag ieithoedd modern eraill ac â Lladin a Groeg.

Cyn belled ag y mae a fynno â dysgu iaith, dyletswydd gyntaf yr ysgol uwchradd, fel yr ysgol gynradd hithau, yw datblygu gwybodaeth y plentyn o'i famiaith a'i llenyddiaeth, a'r defnydd a wna ohoni. Golyga hyn y dylid dysgu Cymraeg i bob plentyn sy'n siarad Cymraeg gartref, drwy gydol ei holl gwrs cyffredinol. Yn yr un modd, dylai'r disgybl sy'n siarad Saesneg gartref yntau ddysgu Saesneg dros yr un cyfnod. Nid boddhaol dim llai na hyn: ac ar sail hyn yn unig y dylid ystyried lle'r ieithoedd eraill.

Bychan iawn yw nifer y plant di-Gymraeg sy'n astudio'r Gymraeg fel ail-iaith, ac mewn rhai ysgolion yn yr ardaloedd Seisnig, ni ddysgir y Gymraeg o gwbl. Ond ysgolion yng Nghymru yw'r rhain yn ogystal â'r lleill, er bod tuedd i anghofio hyn weithiau, ac wrth gynghori'r plant ynghylch eu dewis o ail iaith, dylent ystyried hawliau priodol y Gymraeg i fod iaith eu dewis. Wrth wneud hyn, byddai eu gwasan-