aeth i'r genedl yn fawr, trwy greu yn y bobl ifainc ymhob cwr o Gymru yr ymdeimlad eu bod yn perthyn i'r un gymdeithas.
3
Cynlluniau Gwaith
WRTH DREFNU CYNLLUNIAU GWAITH YN GYMRAEG AR GYFER POB MATH o ysgolion uwchradd, dylid cadw mewn cof y sylwadau canlynol; amrywia'r pwyslais, yn ôl teip yr ysgol, ond erys yr egwyddorion sylfaenol yn wir, beth bynnag fo'r teip.
A. Cymraeg fel Iaith Gyntaf
(a) Tybir yn aml nad oes eisiau hyfforddiant arbennig mewn siarad Cymraeg ar blant sydd beunydd yn siarad Cymraeg gartref. Anaml y gellir cyfiawnhau hyn. Y mae dysgu'r plentyn i siarad yn eglur, yn gywir ac yn swynol, yn rhan o'r hyfforddiant iaith y dylid ei roi iddo. Dylai'r cwrs gynnwys, felly, hyfforddiant ymadrodd cyson, ymarferion dramatig cyffredinol, a hefyd hyfforddiant mewn darllen yn uchel ddarnau o farddoniaeth a rhyddiaith.
Y mae hyfforddiant o'r fath yn angenrheidiol ymhob ysgol uwchradd. Yn yr ardaloedd cymysg eu hiaith, yn arbennig, rhaid gosod pwyslais neilltuol ar ddatblygu ymadrodd clir a rhwydd mewn gwaith llafar cyffredinol ac mewn darllen. Yn yr ysgol fodern, rhaid gofalu wrth ddethol llyfrau darllen, yn enwedig ar gyfer y grwpiau isel eu cyraeddiadau. Yn y dosbarthiadau hyn, darllen mewn grwpiau a fydd yn debyg o fod fwyaf boddhaol, a golyga hyn fwy o amrywiaeth mewn llyfrau darllen ychwanegol. Erbyn hyn, y mae gennym fwy o lyfrau darllen Cymraeg addas i'r ysgol fodern, ond y mae eisiau llawer eto. Yn yr ysgolion hyn, ac yn arbennig yn y dosbarthiadau y cyfeiriwyd atynt uchod, dibynna llawer ar fywiogrwydd ac amrywiaeth y gwaith llafar. Dylai'r darllen, y gwaith llafar, a'r gwaith ysgrifennu ddal perthynas agos â'i gilydd, a dylai'r holl waith mewn iaith gael ei gysylltu gymaint ag sy'n bosibl â holl gefndir bywyd y plentyn, â'i weithgareddau yn yr ysgol yn gyffredinol, a thu allan iddi. Ynglŷn â hyn, byddai'n ddymunol i'r athrawon ymgyfarwyddo â thechneg dull y "project.'
(b) Dylai'r cyrsiau hefyd gynnwys astudiaeth o waith llenorion enwog Cymru, yn rhyddiaith a barddoniaeth; dylai'r plant ddarllen mwy o waith prif ysgrifenwyr rhyddiaith Cymru. Er na fydd yn bosibl, efallai, i ddarllen testunau cyfain, gellir gwneud llawer trwy ddewis yn ddoeth, a thrwy grynhoi a defnyddio detholion. Mewn barddoniaeth ni ddylid ystyried unrhyw gwrs yn gyflawn heb astud-