Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Broblem Ddwyieithog yn Ysgolion Uwchradd yng Nghymru.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iaeth o'r mesurau caeth, a heb ryw astudiaeth, pa mor elfennol bynnag, o egwyddorion y Gynghanedd. Y mae cynlluniau gwaith, fel rheol, yn darparu ar gyfer dysgu ar gof ddarnau helaeth o farddoniaeth: nid yw'r arfer o ddysgu ar gof ddarnau o ryddiaith urddasol mor gyffredin, er ei fod yr un mor werthfawr.

(c) Ni fyddai astudiaeth o ryddiaith Gymraeg yn gyflawn yn yr ysgol nac mewn unrhyw fan arall, heb ei fod yn cynnwys rhywfaint o'r Beibl. Bu dylanwad y Beibl yn ddwfn ar ryddiaith a barddoniaeth Cymru, ac ar dwf cyffredinol diwylliant Cymru. Mae'n wir hefyd i'r Beibl Saesneg ddylanwadu'n drwm ar ddatblygiad bywyd a llenyddiaeth Lloegr, a gallai plentyn ddysgu llawer am hanes y ddwy wlad trwy gymharu'r modd y dylanwadodd y Beibl ar fywyd a llenyddiaeth y naill a'r llall.

Efallai mai buddiol weithiau fyddai cymharu darnau o'r Argraffiad Awdurdodedig o'r Beibl Cymraeg a'r Argraffiad diweddar o'r rhannau hynny a gyhoeddwyd eisoes gan Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru. Dylid son hefyd am yr Argraffiad o'r Testament Newydd a wnaed yn orgraff Gymraeg heddiw.

(d) Heb feistroli o leiaf elfennau ei gramadeg, nid oes unrhyw astudiaeth fuddiol o'r Gymraeg yn bosibl. Wrth ddysgu gramadeg, rhaid defnyddio dulliau anwythiad (induction) a diddwythiad (deduction).

Dyry'r dull anwythiad hyfforddiant gwerthfawr dros ben mewn sylwi a dosbarthu. Yr un mor werthfawr ydyw'r defnydd a wneir o ddiddwythiad i sicrhau arferion ysgrifennu cywir. Rhaid wrth y ddau fethod i gael y gorau allan o astudio gramadeg.

Dadleuir na ellir cymhwyso'r ymarferion diddwythiad hyn fel y'u defnyddir wrth ddysgu'r clasuron, at ddysgu iaith fodern, gan mai drwy gyfieithu'n unig y gwneid yr ymarferion hyn, ac na byddai hyn yn gyson â dulliau diweddar, yn enwedig os ydys am lynu'n ddiwyro wrth y Method Union. Nid oes grym yn y ddadl hon, gan nad cyfieithu yw'r unig ddull o ymarfer felly. Y mae dysgu'r Ffrangeg fel mamiaith yn ysgolion Ffrainc, yn enwedig y defnydd a wneir o ddiddwythiad wrth drin gramadeg er mwyn sicrhau cyfansoddi naturiol, clir a chywir, yn cyrraedd safon uwch nag a geir yn unlle arall: ond rhaid gwneud hyn oll, o angenrheidrwydd, drwy gyfrwng yr iaith ei hun. Y mae'r hyn a wneir yn Ffrainc yn yr iaith gyntaf, yn bosibl hefyd yn Gymraeg.

Rhaid ymarfer gymaint ag sy'n bosibl â chymhwyso rheolau cystrawen wrth gyfansoddi: felly hefyd rhaid wrth ymarferion dril i gymathu nodweddion ffurfiant. Ychydig a welwyd yn ddiweddar o ddefnyddio ymarferion dril er mwyn dysgu ar gof ffurfiau safonol rhediad gwahanol rannau ymadrodd, a diflanasant yn llwyr o rai ysgolion. Cododd hyn eto, a hynny drwy gamgymeriad hollol, o'r lle blaenllaw a roddwyd i ffurfiant yn y Gramadegau hŷn, a'r dull o'i gyflwyno. Oherwydd rhoi'r gorau i'r dull traddodiadol o gyflwyno ffurfiant, ymddengys bod llawer o ysgolion wedi casglu hefyd nad oes bellach angen am ddysgu rhediadau'n drwyadl. Y mae'n bwysig