Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Broblem Ddwyieithog yn Ysgolion Uwchradd yng Nghymru.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cadw'r ymarferion hyn, a'u gwneud yn rhan hanfodol o'r cyflwyniad newydd sy'n nodweddu'r dull modern o ddysgu iaith.

Rhydd y Gymraeg gyfle i amryw ymarferion o'r fath, a phan gysylltir hwy'n ofalus a'r gwaith cyffredinol, nid yn unig rhoddant hwb ymlaen i astudiaeth o'r iaith, ond hefyd rhoddant i'r plant weithgareddau sydd wrth eu bodd. Dylai'r mwyafrif o'r gwersi Cymraeg yn ystod y ddwy flynedd gyntaf gynnwys ymarfer dril am bum neu ddeng munud.

(e) Bydd y ddawn i ysgrifennu Cymraeg idiomatig yn datblygu i'r graddau y bo cysylltiad rhwng dysgu gramadeg a darllen. Dylid yn rheolaidd osod ymarferion ysgrifennu yn unig swydd er mwyn sicrhau cywirdeb a gwybodaeth idiom. Nid oes rhaid iddynt fod ar ffurf cyfieithu, er y gall cyfieithu o'i ddefnyddio'n ofalus, fod yn offeryn effeithiol at gyrraedd yr amcan hwn, ac y mae iddo hawl i'w le wrth ymarfer â dulliau diweddar.

Dylid gofalu dewis testunau addas i'r ymarferion ysgrifennu, a rhagbaratoi'r deunydd yn fanwl. Dylai'r ymarferion ddilyn fwy neu lai yn syth o'r gwaith llafar, pa un ai gwers ymddiddan yw ai trafodaeth ar ddarn a ddarllenwyd, ac fe ddylai fod ymdrech fwriadol ar ran yr athro i gael gan y plant ddefnyddio mwy a mwy o'r eirfa oddefol yn yr ysgrifau hyn. Trafoder yn fanwl eiriau newydd, a phob gair nad yw ei ystyr eto wedi ei gwbl ddirnad, a defnyddiol fyddai i'r athro a'r dosbarth gyda'i gilydd benderfynu'n fras ymlaen llaw beth y bwriedir ei ddweud, a'r lle a'r pwysigrwydd a roddir i'r gwahanol rannau yn y cyfanwaith. Er nad ydyw'r ysgrif yn Gymraeg wedi datblygu fel ffurf lenyddol i unrhyw raddau tebyg i'r ysgrif Saesneg, eto y mae digon o batrymau ar gael, ac fe haedda rhai o'r ysgrifau Cymraeg diweddaraf astudiaeth ofalus.

Y mae'n anodd ac efallai mai di-fudd fyddai ceisio awgrymu sut i feddiannu'r arbenigrwydd unigol hwnnw, a'r rhagoriaeth mewn ysgrifennu a elwir yn arddull. Ond y mae modd, serch hynny, i'r mwyafrif o'r plant drwy gyfrwng hyfforddiant deallus gyrraedd safon o ysgrifennu clir a pherthynol a rydd fwynhad i'r neb a'i darlleno. Os ceir rhywbeth tebyg i hyn gan y mwyafrif o'r plant ar ôl iddynt ddarllen yn ystyriol y patrymau gorau, a chael digon o ymarferion addas mewn rhyddiaith, yna yr ydys yn cyflawni gwaith da iawn. Dros ben hyn, try'r ddawn i ysgrifennu yn beth arbennig unigol o dan ddylanwad ac arweiniad elfennau personol na ellir eu pwyso na'u mesur.

(f) Er hyn i gyd, y mae'n bwysig iawn i'r plentyn yn yr ysgol uwchradd beidio â dod i ystyried astudiaeth o'r famiaith fel cyfres o ymarferion ffurfiol, pa enwau bynnag a roddir iddynt wrth eu cyflwyno. Os ydyw agwedd y plentyn at iaith ar ôl iddo adael ysgol, i fod yn fyw, yn ymholgar ac yn feirniadol, yn hytrach nag yn oddefol ac yn ddifater, yna rhaid i'r ysgolion uwchradd, gramadeg a modern, efelychu'r ysgol fabanod a'r ysgol iau yn y ffordd y maent hwy'n pwysleisio ac yn datblygu'r agwedd greadigol honno ar astudio iaith. Y mae'n hynod ein bod ni'n disgwyl ac yn cymeradwyo gwaith