Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Broblem Ddwyieithog yn Ysgolion Uwchradd yng Nghymru.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

creadigol mewn celfyddyd a chrefft, a cherddoriaeth, ac eto, ar y cyfan, yn tueddu i bwysleisio'r agweddau ffurfiol mewn iaith, yr un gweithgaredd hwnnw y mae gan bawb ohonom ran ynddo. Peth anghyffredin, er enghraifft, yw ystyried prydyddu yn ddim mwy na rhywbeth y gall ambell blentyn ymddiddori ynddo ar brydiau, ac eto y mae prydyddu—a pheth ohono'n haeddu gwell enw—wedi bod yn un o adloniannau nodweddiadol y Cymry. Dylid annog y plant i ymarfer â phob math o ysgrifennu creadigol, pa un ai mewn rhyddiaith ai mewn barddoniaeth. Dylid rhoi llyfr arbennig iddynt i'r pwrpas hwn, er mwyn cadw ymarferion ffurfiol ar wahan i'r darnau ysgrifennu hynny sy'n rhoi rhyddid i'w dychymyg.

(g) Y mae penodi arbenigwyr i ddysgu Cymraeg yn yr ysgolion uwchradd wedi talu'n llawn. Weithiau, bydd gan yr athro Cymraeg ystafell Gymraeg,' ac yno y daw pob dosbarth yn ei dro i gael eu gwersi. I'r ystafell hon, cesglir lluniau, llyfrau, llawysgrifau, modelau o wrthrychau nodweddiadol Gymreig, a phob math posibl o "realien" Cymraeg. Y mae'r defnyddiau dysgu yn gyfleus wrth law, ac effaith cael ystafell felly ydyw ennyn diddordeb ac ymdrech.

Er cystal manteision yr ystafell Gymraeg,' y mae un perygl, fodd bynnag, ynglŷn â hi, sef yw hwnnw, cadw'r Gymraeg ar ei phen ei hun. Fe geisia'r mwyafrif o'r ysgolion osgoi'r perygl hwn yn eu gwaith bob dydd. Mewn ardaloedd Cymraeg, peth cyffredin ydyw cael bod llawer, onid y mwyafrif, o'r athrawon yn siarad Cymraeg, a manteisiant ar bob cyfle i ddefnyddio'r famiaith, er mai Saesneg ydyw cyfrwng hyfforddi'r pwnc a ddysgant. Y mae rhai Prifathrawon sy'n annog eu disgyblion i siarad â hwy yn Gymraeg pryd bynnag y dont i'w gweld hefyd, cynydda'r parch sy'n ddyledus i'r iaith, os clyw'I plant yr athrawon yn siarad â'i gilydd yn Gymraeg.

Y mae ffyrdd eraill o greu awyrgylch Gymreig y tu allan i'r wers a'r ystafell ddysgu. Y mae nifer y llyfrau Cymraeg yn y llyfrgell, a'r amlygrwydd a roddir i gyfraniadau Cymraeg yng nghylchgrawn yr ysgol yn cael cryn effaith. Y mae chwarae dramau Cymraeg, canu caneuon Cymraeg, cynnal eisteddfodau Cymraeg, a chyfarfodydd rheolaidd Cymdeithas Gymraeg, ymarfer â dawnsio gwerin—y mae hyn oll yn cyfrannu at yr awyrgylch. Yn bennaf oll, mae cynnal y gwasanaeth borëol yn Gymraeg yn nodedig o effeithiol.

(b) Un anghenraid mawr ymhob ysgol uwchradd ydyw rhoi cefndir daearyddol i wybodaeth y plant am Hanes a Llenyddiaeth Cymru. Byddai'r mwyafrif o blant Cymru yn ansicr wrth geisio dangos, ar fap o Gymru, leoliad y rhan fwyaf o fannau a chartrefi fel y Lasynys, Cefn Brith, Llanfihangel-yng-Ngwynfa, Llanddowror, Llangeitho, Ystrad Fflur, Llanymddyfri, Llanbrynmair, Llanarmon-dyffryn-Ceiriog, Cynfal, Pont-y-meibion, a Maentwrog. Dyma enwau y bu iddynt yn sicr ddod ar eu traws yng nghwrs eu darllen, ac nid yw'r rhain ond ychydig ymhlith y llu mawr o enwau sy'n dwyn cysylltiad agos â llenyddiaeth Gymraeg.

Ni chawsom eto atlas llenyddol o Gymru, ond yn y cyfamser, gallai'r ysgolion achub y blaen arno i raddau drwy baratoi mapiau i