Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Broblem Ddwyieithog yn Ysgolion Uwchradd yng Nghymru.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddarlunio rhai o ffeithiau pwysicaf llenyddiaeth. Er enghraifft, byddai map syml yn darlunio "Yn y Wlad," "Cartrefi Cymru," "Tro Trwy'r De," a "Tro Trwy'r Gogledd" yn fuddiol iawn i leoli gwybodaeth y plant am lawer o'r llenyddiaeth y maent yn ei hastudio. Gellid llunio map diddorol a defnyddiol yn delio'n unig ag emynwyr Cymru. Gellid gwneud mapiau yn darlunio'r gwahanol ganrifoedd, neu gellid eu seilio ar symudiadau neu ddatblygiadau llenyddol. Ynglŷn â hyn, dylid sôn am y map llenyddol a hanesyddol defnyddiol iawn o Sir Ddinbych, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ynghŷd â llawlyfr, gan yr Awdurdod Addysg Lleol.

B. Cymraeg fel Ail Iaith

(a) Rhaid gwahaniaethu rhwng yr amodau sy'n penderfynu dysgu Cymraeg fel ail-iaith mewn ardaloedd lle siaredir Saesneg yn bennaf, a'r amodau hynny sy'n rheoli dysgu Saesneg fel ail iaith yn yr ardaloedd Cymraeg.

Yn gyntaf, nid yr un yw'r nôd yn y ddau achos. Ymhlith rhesymau eraill, dysgir Saesneg fel ail iaith drwy'r ysgol gynradd mewn ardaloedd Cymraeg er mwyn ei defnyddio fel cyfrwng hyfforddi ar ôl hynny. Mewn ysgolion o'r fath, felly, rhoddir lle amlycach i'r Saesneg fel ail iaith, nag i'r Gymraeg fel ail iaith yn yr ysgolion cynradd di- Gymraeg..

Eto, y mae'n haws dysgu Saesneg fel ail iaith yn yr ysgol gynradd na dysgu Cymraeg fel ail iaith yn ystod yr un cyfnod, gan fod y dylanwadau o'r tu allan i'r ysgol sydd o blaid dysgu'r Saesneg fel ail iaith, yn rymusach o lawer na'r dylanwadau hynny sydd o blaid dysgu'r Gymraeg fel ail-iaith. Rhoddir mwy o amser i Saesneg, ac y mae'r athrawon, fel corff, mewn gwell ffordd i ddelio â dysgu Saesneg fel ail-iaith na Chymraeg fel ail-iaith, gan mai Saesneg bron yn gyfangwbl ydyw cyfrwng addysg yr Ysgol Uwchradd, y Coleg Hyfforddi, a'r Brifysgol yng Nghymru. Y canlyniad yw bod gan y plentyn Cymraeg sydd dros un-ar-ddeg lawer gwell gafael ar Saesneg nag sydd gan y plentyn Saesneg o'r un oed ar Gymraeg, hyd yn oed pan gafodd y Gymraeg fel ail iaith fwy o sylw nag arfer yn yr ysgol gynradd.

Dyma'r gwahaniaethau y mae'n rhaid eu cydnabod a'u hystyried, cyn y gellir cymharu cyraeddiadau plant o unrhyw oedran yn Gymraeg fel ail iaith, ac yn Saesneg fel ail iaith.

(b) Rhaid yn gyntaf, beth bynnag fo natur yr ardal, drefnu dosbarthiadau tebyg o ran iaith. Y mae dosbarthu ar sail iaith yn hanfodol er mwyn sicrhau gwaith effeithiol. Hwyrach mai anodd fydd trefnu dosbarthiad felly mewn rhai ysgolion, gan na fydd digon o rif efallai, yn y grwp Cymraeg neu'r grwp di-Gymraeg i ffurfio dosbarth ar wahan. Efallai hefyd y bydd anhawster oherwydd prinder athrawon angenrheidiol neu oherwydd diffyg lle. Pan ddigwyddo hyn, y mae dysgu'r ddau grwp yr un pryd, neu o leiaf yn yr un wers yn yr un dosbarth, yn wir anodd. Ond, hyd yn oed wedyn, y mae'n fuddiol ac yn angenrheidiol i rannu'r dosbarth, oherwydd nid yn aml y mae'n