fanteisiol i hyfforddi'r ddau grwp gyda'i gilydd. Os ydyw'r dysgu'n ddigon syml i'r plentyn di-Gymraeg ei ddeall, yna y mae'n amlwg na all, gan amlaf, ddiddori'r plentyn Cymraeg. Ar y llaw arall, os bydd y safon yn ddigon uchel i ateb anghenion y plentyn Cymraeg, fel arfer ymhell o gyrraedd y llall. Felly, rhaid cael rhyw fath o ddosbarthu. Y ffordd orau yw rhannu'r ysgol, gan ddod â phlant o'r un iaith at ei gilydd (vertical classification), ond os methir à gwneud hyn, oherwydd gofynion yr amserlen neu brinder athrawon, yna rhaid rhannu pob dosbarth yn ôl gwybodaeth y plant o'r Gymraeg (horizontal classification).
(c) Wrth sôn am y nôd neu'r safon mewn perthynas à dysgu'r Gymraeg fel ail iaith, gwell felly fydd eu hystyried o safbwynt y minimwm mewn perthynas â'r plentyn di-Gymraeg mewn ysgol lle mae dylanwadau allanol y Gymraeg yn wan. Bydd beth bynnag a ellir ei wneud dros ben hynny mewn ardaloedd lle mae'r dylanwadau Cymraeg yn drymach, yn amrywio o le i le.
A bwrw nad yw ym mwriad y plentyn i astudio'r pwnc yn y Brifysgol, yr amcan cyntaf yw iddo allu dod i ddarllen Cymraeg a'i deall, ac yn fuan wedyn i ddeall Cymraeg llafar, ac i siarad Cymraeg. Nid anwybyddu na bychanu gwerth y gallu i ysgrifennu Cymraeg yw hyn; ond os mai galluogi'r plentyn di-Gymraeg, ar ôl iddo adael yr ysgol, i gyfranogi o wahanol agweddau y bywyd Cymreig ydyw nôd ac amcan dysgu ail iaith, yna, y mae'n fwy angenrheidiol iddo fedru darllen Cymraeg, a'i deall a'i siarad hi, nag yw iddo fedru ei hysgrifennu i'r un graddau. Os gall ddarllen Cymraeg a'i deall ar lafar, y mae ganddo'r moddion i gael budd a mwynhad allan o lenyddiaeth Cymru, ac, er mantais iddo ef ei hun, i ddilyn yr amryw gyfarfodydd cymdeithasol, crefyddol ac addysgol hynny, y gall y bywyd Cymreig eu cynnig iddo- cyfarfodydd fel yr Eisteddfodau Cenedlaethol, a'r Eisteddfodau Lleol, dramâu Cymraeg, a'r amryw gyfarfodydd llenyddol a chymdeithasol a gynhelir o dan nawdd capeli ac eglwysi a mudiadau ieuenctid. Gall ei gynorthwyo hefyd mewn llawer o ardaloedd gwledig i gymryd ei le yn fwy esmwyth ar fyrddau cyhoeddus. Ofnir bod llawer o blant yr ysgol uwchradd (hyd yn oed plant yr ysgolion gramadeg) o hyd heb y manteision hyn, er iddynt lwyddo i basio'r arholiadau presennol mewn Cymraeg fel ail iaith, ac oherwydd eu hanallu i fanteisio ar y cyfleusterau o fewn eu cyrraedd, y mae eu diddordeb yn yr iaith yn gwanhau, a'u gafael arni'n llacio. Rhaid cael ychydig o ymarfer ysgrifennu, y mae'n wir, er mwyn ymgydnabyddu â dulliau idiomatig, ac i feithrin cywirdeb ymadrodd, a hyd yn oed i ddeall yr hyn a ddarllenir, ac fe fydd amser a chyfle i gynnwys ymarferion felly.
I'r plant sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith, dylai'r cwrs felly anelu'n bennaf at ddeall Cymraeg llyfr a llafar, a chysylltu hynny â'r gallu i'w siarad hi: ac wedyn, ceisio datblygu cyn belled ag sy'n bosibl, y gallu i ysgrifennu'r iaith. I gyrraedd hyn, arbedir amser ac egni, a bydd gwell cynnydd, os cysylltir y deunydd darllen gymaint ag sy'n bosibl â'r iaith a ddefnyddir i ddatblygu'r gallu i siarad. Dylid seilio'r gwaith ysgrifennu o hyd ar y darllen a'r siarad.