(d) Llyfrau Darllen a Geirfa: y cnewyllyn cyffredinol. Y mae dewis llyfrau darllen, felly, yn fater pwysig iawn. Cafwyd cryn welliant yn
ddiweddar yn y llyfrau darllen Cymraeg ar gyfer gwaith dosbarth, ac y mae'r gynhysgaeth a'r amrywiaeth o lyfrau diddorol ar gyfer darllen ychwanegol wedi cynyddu'n fawr yn ystod y pymtheg neu'r ugain mlynedd diwethaf. Y mae'n amheus serch hynny a gafwyd eto lyfr darllen o'r math mwyaf pwrpasol ar gyfer y plentyn sy'n gorfod dysgu'r Gymraeg fel ail iaith a hynny gydag ychydig o hyfforddiant ac o fewn amser cyfyngedig. Y mae'r gwelliant angenrheidiol felly yn dibynnu ar ddethol geirfa fwy addas, neu'n hytrach ar gael datblygiad organig yn yr eirfa mewn cyfres o lyfrau olynol.
Gwyddys mai bychan yw'r eirfa sydd yn angenrheidiol i'r dyn cyffredin er mwyn medru deall ac ymddiddan yn ei ymgyfathrach bob-dydd yn wir, mae hi'n llawer llai nag a sylweddolir yn gyffredin. Fel bo'r cysylltiadau cymdeithasol a chyffredinol yn cynyddu, bydd galw am eirfa changach, ond y minimwm o eirfa a ddefnyddir gan y dyn cyffredin yw cnewyllyn pob geirfa arall bob amser pa mor eang bynnag yr elo. Bydd pob geirfa, wrth gwrs, yn amrywio yn ôl fel datblyga dermau gyda gwahanol weithgareddau a galwedigaethau, ond y mae'r elfen sy'n gyffredin i bob un ohonynt yn fwy o lawer nag unrhyw wahaniaeth sydd rhyngddynt.
Gan mai prin yw'r amser a roddir fel arfer i ddysgu'r Gymraeg fel ail iaith o'i gymharu â maint y gorchwyl, y mae'n bwysig iawn canolbwyntio i ddechrau ar yr elfen gyffredin hon mewn geirfa. Wedyn, dylai'r gwaith o roi i'r plentyn wir afael ar yr eirfa hon gael ei drefnu'n ofalus iawn, er mwyn sicrhau cynnydd organig yn hytrach nag un amberthnasol o flwyddyn i flwyddyn yn ystod y cwrs.
Rhaid rhoi'r un ystyriaeth hefyd i'r darllen. Yr eirfa sylfaenol mewn ymddiddan a ddylai fod yn fframwaith i'r llyfr darllen, yn arbennig i'r llyfrau darllen cyntaf, a dylid ystyried yn fanwl bob gair a chwanegir at y fframwaith hwn.
Rhaid gofalu hefyd wrth ystyried geirfa'r llyfrau darllen ychwanegol, ac yn arbennig eirfa'r llyfrau gosod i blant sy'n astudio'r Gymraeg fel ail iaith. Yr anhawster pennaf wrth gyfansoddi gwaith gwreiddiol i'r plant hyn ydyw defnyddio iaith sy'n ddigon syml iddynt, ac ar yr un pryd, gadw rhag cynnwys deunydd nad yw'n debyg o ddiddori neb ond darllenwyr llawer iau.
Y mae geirfa rhai o'r llyfrau Cymraeg a ddefnyddir yn yr ysgolion uwchradd yn galw am feirniadaeth. Cynhwysant ormod o eiriau na ellir eu cysylltu â'r cnewyllyn organig hwnnw y gellir yn rhesymol ddisgwyl fod y plentyn wedi'i feddiannu ar y pryd. Os derbynnir yr. amcan cymdeithasol, a nodwyd eisoes, sydd i ddysgu'r Gymraeg fel ail iaith, yna byddai'n fwy buddiol i'r disgybl di-Gymraeg roi'r amser a dreulir wrth geisio meistroli geiriau llai adnabyddus y llyfrau, i gael gwell gafael ar yr eirfa bob-dydd. Byddai paratoad mwy trwyadl a phrawf manylach o fewn terfynau geirfa lai yn fwy ymarferol. Gall plentyn wybod ystyr llawer o'r geiriau y daw ar eu traws mewn llyfrau heb chwanegu llawer wrth hynny at ei feistrolaeth weithredol